Heddiw (7 Ebrill) mae Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch-Saunders AC, wedi mynegi ei dicter â phobl sy’n dod yma ar wyliau a pharhau i anwybyddu cyngor arbenigwyr drwy ymweld â’n rhanbarth, gan roi baich diangen ar wasanaethau’r GIG a chadwyni cyflenwi.
Wrth ganmol y gwasanaeth am ei waith wrth gartrefu staff rheng flaen, mae Mrs Finch-Saunders yn ymuno â llu o wleidyddion sy’n galw ar Airbnb i atal archebion gan ymwelwyr gydol yr argyfwng COVID-19.
Wrth roi ei sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Rwy’n flin iawn clywed am ymwelwyr yn parhau i anwybyddu cyngor arbenigwyr drwy ymweld â’n rhanbarth, gan roi baich diangen ar wasanaethau GIG lleol a chadwyni cyflenwi.
“Rwy’n gefnogwr brwd o’n diwydiant twristiaeth a lletygarwch rhagorol, ond fy mhrif flaenoriaeth yw helpu i atal lledaeniad y feirws, diogelu ein GIG a chadw trigolion yn ddiogel.
“Ar hyn o bryd, nid oes gan fy etholaeth y seilwaith gofal iechyd i ymdopi â llu o ymwelwyr. Rwyf wedi clywed gan lawer iawn o drigolion pryderus sy’n mynnu bod yn rhaid atal hyn.
“Heddiw, rwy’n erfyn ar hwyluswyr twristiaeth ar-lein fel Airbnb, i weithio i atal archebion gan ymwelwyr gydol yr argyfwng hwn. Mae hyn yn hollbwysig wrth i ni agosáu at benwythnos gŵyl banc y Pasg.
“Er fy mod yn canmol gwaith rhagorol Airbnb i helpu i gartrefu ein staff GIG anhygoel yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n rhaid iddo weithio’n galetach i atal twristiaid rhag rhoi baich ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd.
DIWEDD