Heddiw (16 Ebrill) mae Janet Finch-Saunders AC – Aelod Cynulliad Aberconwy – wedi siarad am ei siom gyda’r diffyg manylion yn ymatebion Gweinidogion Cymru i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad.
Daw ei siom wrth i nifer cynyddol o Aelodau dderbyn ymateb safonol ar ôl cyflwyno eu Cwestiynau Ysgrifenedig, yn nodi y bydd y Gweinidog yn ysgrifennu cyn gynted â phosibl ac y bydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein.’ Datgelwyd hefyd yr wythnos hon, mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad gan Mrs Finch-Saunders ar 30 Mawrth, i Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd, ymateb:
“Ar hyn o bryd, nid oes gennyf wybodaeth am nifer y preswylwyr cartrefi gofal sydd wedi dal COVID-19 ac sydd wedi marw yn sgil hynny neu sydd ar fin marw.” (WAQ79728)
Mae Paul Davies AC, Arweinydd yr Wrthblaid Swyddogol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ynghylch pryderon cynyddol am y diffyg craffu mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol.
Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi craffu yn ddiweddar yn warthus. Er fy mod yn gwerthfawrogi bod straen enfawr ar Weinidogion Cymru ar hyn o bryd, mae’n rhaid cynnal gwiriadau priodol os ydym am gadw ffydd mewn sefydliadau cyhoeddus.
“Gyda chyfyngiadau cynyddol ar gyfraniadau cyfarfodydd llawn a chyfyngiad ar nifer y cwestiynau ysgrifenedig y gallwn eu cyflwyno, mae’n gwbl anghyfrifol i Weinidogion Cymru osgoi cyflwyno ymatebion llawn a thrylwyr i gwestiynau.
“Fel gwrthblaid swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol, mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi addewid y byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Llafur Cymru i gyfrif gydol y pandemig COVID-19.
“Gyda symiau sylweddol o arian cyhoeddus yn y fantol, gan gynnwys pecyn cyllid ychwanegol o £350 miliwn ar gyfer Cymru, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn parhau yn onest a thryloyw yn y penderfyniadau y mae’n eu gwneud.
DIWEDD