Heddiw (22 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders – AC Aberconwy – wedi croesawu adnodd ‘canfod cymorth’ newydd y DU, sydd wedi’i lunio i helpu busnesau i bennu yn gyflym a hawdd pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt gydol y pandemig COVID-19.
Daw ei sylwadau wrth i fusnesau ledled Dyffryn Conwy adrodd eu chwarter gwaethaf ers Argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau. Ymysg y cyflogwyr hynny sydd wedi dioddef fwyaf mae busnesau lletygarwch y rhanbarth, sy’n rhagweld y byddant yn colli cyfran sylweddol o’r £6.3 biliwn sy’n cael ei wario gan dwristiaid yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae’r adnodd canfod cymorth (ar gael yma: www.gov.uk/business-coronavirus-support-finder) yn gofyn i gwmnïau ac unigolion lenwi holiadur ar-lein syml, cyn cael eu cyfeirio at restr o’r holl gymorth ariannol y gallant fod yn gymwys amdano. Mae Llywodraeth y DU yn dweud mai dim ond munud neu ddau y bydd yn ei gymryd i’w lenwi.
Gan roi ei sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Yn ystod y mis diwethaf, rwyf wedi derbyn lefel ddigynsail o ohebiaeth gan berchnogion busnesau pryderus yn holi pa gymorth sydd ar gael iddynt.
“Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth digynsail sy’n cael ei groesawu’n fawr ar gyfer diogelu swyddi, busnesau ac incymau yn ystod yr adegau anodd hyn.
“Mae eglurder yn hollbwysig i’n busnesau sydd wedi’u taro’n galed, ac mae llawer ohonynt wedi profi eu chwarter gwaethaf o fasnachu ers Argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau.
“Rwy’n erfyn ar gwmnïau yng Nghonwy, ynghyd â’r hunangyflogedig, i ddefnyddio’r adnodd digidol syml hwn. Bydd ymateb yn cael ei gynnig o fewn munudau, gan eich helpu i bennu pa gymorth ariannol sydd ar gael yn gyflym ac yn hawdd.
“Hoffwn atgoffa fy holl etholwyr bod fy swyddfa ar agor o hyd ar gyfer unrhyw ymholiadau neu bryderon. Mae croeso i chi gysylltu â mi os ydych chi angen cymorth neu gyngor.
DIWEDD