Heddiw (21 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders AC, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC (Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru) yn erfyn am ymdrech ‘uchelgeisiol’ gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr llaeth y wlad, sy’n wynebu anawsterau yn sgil y pandemig COVID-19 byd-eang.
Daw ei galwadau mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar ddiwydiant llaeth Cymru, wrth i nifer y cynhyrchwyr llaeth yng Nghymru barhau i leihau. Yn ôl ystadegau diweddar gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae Gogledd Cymru wedi colli 10 o gyflenwyr rhwng mis Ebrill 2019 a 2020.
Ymysg yr awgrymiadau a amlinellir yn ei llythyr agored, mae Mrs Finch-Saunders wedi gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ystyried:
- Darparu mynediad at y Gronfa Cadernid Economaidd i bawb yn y sector amaethyddol sydd wedi’u heffeithio gan effaith coronafeirws ar y farchnad.
- Archwilio contractau caffael cyhoeddus i sicrhau bod y GIG, y fyddin a charchardai yn defnyddio llaeth ffres o Gymru.
- Pwyso a mesur y posibilrwydd i’r sector cyhoeddus brynu mwy o laeth at ddefnydd unigolion sy’n derbyn cymorth y Wladwriaeth, fel cleifion ysbytai, y digartref a phlant gweithwyr allweddol.
- Cynorthwyo i reoli llif llaeth drwy’r gadwyn gyflenwi.
Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae’n dorcalonnus clywed am ffermwyr yn gorfod taflu llaeth i ffwrdd a cholli eu bywoliaeth.
“Credaf fod mwy o angen nag erioed i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a bod yn uchelgeisiol yn ei hymdrechion i helpu i arbed y sector llaeth rhag dirywio ymhellach.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i archwilio contractau caffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod ein GIG, ein milwyr a charchardai yn defnyddio llaeth ffres o Gymru. Dylem hefyd bwyso a mesur y posibilrwydd i’r sector cyhoeddus brynu mwy o laeth at ddefnydd cleifion ysbyty, y digartref a phlant gweithwyr allweddol.
“Trwy gefnogi ffermwyr llaeth, rydych chi’n cefnogi ein cymunedol gwledig. Mae eu rôl nhw fel contractwyr a darparwyr swyddi yng nghefn gwlad yn rhy bwysig i’w hanwybyddu. Byddai methu â chefnogi’r gweithwyr allweddol hyn mewn cyfnod o angen mawr yn cael effaith bellgyrhaeddol a thrychinebus ar gefn gwlad Cymru.
DIWEDD