Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd, mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i gyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol er mwyn gwarchod gweithwyr gofal cymdeithasol.
Daw ei neges heddiw (27 Mawrth) mewn ymdrechion i arafu a chynnwys lledaeniad Covid-19 (Coronafeirws).
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae’r peryglon i’w gweld yn cynyddu, ac rwy’n credu ein bod ni megis un yn ein dymuniad i sicrhau ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i helpu i ddiogelu staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
“Os na edrychwn ni ar eu holau nhw i gyd, mae posibilrwydd gwirioneddol na fydd digon i staff i ofalu am ein pobl ni.”
Dyma rai o awgrymiadau Mrs Finch-Saunders:
- Sefydlu tîm i gysylltu â phob darparwr gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn pennu eu gofynion o ran cyfarpar diogelu personol
- Canfod pa ganllawiau iechyd a diogelwch sydd wedi’u darparu i bawb sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol
- Nodi sut mae canllawiau cyfarpar diogelu personol yn cael ei rannu, a pha mor aml y caiff ei ddiweddaru
- Esbonio pa gymorth sy’n cael ei ddarparu i rai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol o ran cael gafael ar gyfarpar diogelu personol
Ychwanegodd:
“Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog Iechyd ystyried ymgyrch ar-lein glir i ddweud sut gall darparwyr gofal gysylltu â Chanolfan Cydgysylltu Argyfyngau Llywodraeth Cymru.”
Roedd Mrs Finch-Saunders yn cydnabod camau’r Gweinidog Iechyd i wella mynediad at gyfarpar diogelu personol yr wythnos hon, a’i fod wedi derbyn bod problemau parhaus â’r ddarpariaeth.
Ond dywedodd fod y sefyllfa bresennol yn arwydd o “greisus yn y sector gofal cymdeithasol”.
“Dros y deuddeg awr ddiwethaf, rwyf wedi derbyn llu o alwadau gan unigolion ledled Cymru sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, a ymatebodd i’m galwad i ddweud os oedden nhw wedi methu cael gafael ar gyfarpar diogelu personol priodol.”
Soniodd am gartrefi gofal sydd angen cannoedd o focsys o 50 o fasgiau er mwyn diogelu staff ymhen wythnos; unedau iechyd meddwl sy’n methu cael gafael ar fasgiau a masgiau llygaid; a sefyllfaoedd lle gallai rhai staff gofal cymdeithasol wrthod cyflawni eu gwaith am fod ganddynt ofn dal y feirws.
I gloi, meddai:
“Rwyf wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i ystyried hyn fel mater brys – neu bydd bywydau yn y fantol a hynny oherwydd diffyg masg.”
DIWEDD