Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro sut y dylai prosesyddion cig ddehongli’r gyfraith newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw a busnesau eraill gymryd “pob mesur rhesymol” i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw rhwng unigolion ar safle’r busnes. Trafodwyd y sefyllfa mewn cyfarfod llawn ar ôl i Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, dynnu sylw at y ffaith bod cigyddion a phrosesyddion cig angen manylion ynghylch beth yw mesurau rhesymol. Daeth Rheoliad 6A i rym yr wythnos hon, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am waith sy’n cael ei wneud ar unrhyw safle (pan fo gwaith o’r fath yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod o argyfwng a chyhyd â nad yw’r safle yn safle busnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 1) i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl ar y safle (oni bai bod y bobl yn aelodau o’r un aelwyd neu’n ofalwr ac yn berson sy’n derbyn gofal).
Ar ôl y cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:
“Rwy’n croesawu cyflwyno’r rheoliadau newydd gan y dylent helpu i gadw gweithwyr hanfodol yn ddiogel rhag COVID-19.
“Mae cadw pellter cymdeithasol yn hanfodol ar hyn o bryd, felly rwy’n falch bod iechyd gweithwyr a chyflogwyr yn cael ei ystyried yr wythnos hon.
“Fodd bynnag, mae bwlch mawr yn y rheoliadau newydd gan eu bod yn gofyn i fusnesau ‘gymryd pob cam rhesymol’.
“Fel rwy’n gwybod ar ôl siarad gyda chigyddion a phrosesyddion cig yr wythnos hon, byddai’n amhosibl iddynt weithredu llinellau cynhyrchu penodol a sicrhau bwlch o ddau fetr, felly a oedd Llywodraeth Cymru yn dymuno iddynt gau?
“Gan ofni y gallai hyn roi diwedd ar gynhyrchu rhai bwydydd, roeddwn i’n falch o gael eglurhad gan y Gweinidog sut y dylid dehongli’r rheoliadau.
“O’i hymateb ymddengys ei bod yn derbyn bod rhai meysydd busnes na ellir eu gwneud yn fwy, sy’n golygu bod yn rhaid i’n prosesyddion cig wneud ymdrech resymol i ddarparu bwlch dau fetr, ond os yw hynny’n amhosibl, dylent wneud popeth o fewn eu gallu o ran cyfarpar diogelu personol.
“Rydym ni angen bwyd i fyw, a dylem fod yn prynu’n lleol os yw hynny’n bosibl, felly dydw i ddim am weld cigyddion lleol yn gorfod lleihau eu busnesau yn ystod y cyfnod hwn, nac ar unrhyw adeg arall o ran hynny”.
DIWED