Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud tro pedol ar gymorth rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd wedi’u heffeithio’n wael gan COVID-19 wedi gwylltio Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach.
Ddoe (24/03/2020), cyhoeddodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, a Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn cynnwys y pwynt canlynol:
“O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud un addasiad i'r system Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf: i beidio ag ymestyn y rhyddhad o 100% i'r gyfran fach o eiddo sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu’n uwch.
Meddai Janet mewn ymateb i’r datganiad:
“Ar 19 Mawrth 2020, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad clir na fyddai busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch Cymru yn talu ardrethi busnes am 12 mis.
- y tro pedol hwn i eithrio busnesau â gwerth ardrethol o £500,000 a mwy yn golygu y bydd tua 200 o eiddo yn gorfod talu ardrethi busnes er gwaetha’r tebygolrwydd y byddant yn gorfod cau yn sgil yr argyfwng cenedlaethol ar hyn o bryd.
“Rwy’n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi hepgor yr amddiffyniad ariannol hollbwysig hwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch mawr, wrth i’r sefyllfa economaidd barhau i waethygu yn sgil COVID-19.
“Fel y gwn o gynorthwyo busnesau gydag apelau ynghylch gwerth ardrethadwy; nid yw gwerth ardrethadwy uchel ddim o reidrwydd yn golygu bod busnes yn gwneud elw sylweddol. Yn aml iawn, mae’r gyfradd uchel yn gwaethygu’r pwysau ar dreuliau misol.
- eto, rydym yn gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi busnesau dan anfantais o gymharu â Lloegr, lle mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i atal ardrethi busnes am 12 mis i bob busnes manwerthu, lletygarwch a hamdden yno.
“Gofynnaf i’r Gweinidogion cyfrifol adolygu’r penderfyniad hwn ac ystyried darparu rhyddhad ardrethi busnes i holl fusnesau Cymru yn ystod yr argyfwng hwn.”
Nodiadau i Olygyddion: