Wrth roi sylwadau ar y rhybudd gan Mario Kreft o Fforwm Gofal Cymru y gallai hanner y cartrefi gofal yng Nghymru gau, dywedodd Janet Finch-Saunders - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid:
“Os yw’r rhybudd di-flewyn-ar-dafod hwn yn dod yn wir, byddai’r effaith ar bobl yn erchyll i’r preswylwyr, eu teuluoedd, a gweithwyr cartrefi gofal yma yng Nghymru.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £40 miliwn ar gyfer y sector gofal cymdeithasol i oedolion, ond dyw cartrefi gofal heb weld ffrwyth hyn eto.
“Mae pobl yn y sector - perchnogion cartrefi gofal a staff - rwyf wedi siarad gyda nhw yn dweud bod angen i gronfeydd gael eu rhyddhau nawr, ac maen nhw angen gwybod beth arall fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r sector gan fod meddwl am golli 300 neu fwy o gartrefi gofal yn frawychus.”