Heddiw (15 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders AC - Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn yr Wrthblaid - wedi siarad am ei syndod bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gorfod aros am hyd at bum diwrnod i dderbyn eu canlyniadau prawf COVID-19. Mae Aelod Aberconwy hefyd wedi siarad am ei siom gyda’r gallu cyfyngedig i gynnal profion ar hyn o bryd.
Mewn dau gwestiwn ysgrifenedig brys i Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd Cymru, gofynnodd Janet:
- A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae'n eu cymryd i gynyddu uchafswm capasiti profion dyddiol presennol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol?
- All y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae’n eu cymryd i leihau'r cyfnod aros o ddau i bum niwrnod am ganlyniadau profion coronafeirws?
Daw ei ymholiadau yn sgil cyfathrebu â chartrefi gofal preswyl ledled ei etholaeth. Ymysg pryderon eraill, mae rheolwyr yn crybwyll oedi hir cyn derbyn canlyniadau profion COVID-19 a diffyg canllawiau uniongyrchol ar gyfarpar diogelu personol gan Lywodraeth Cymru.
Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae’n syndod gen i glywed am yr oedi a brofir gan weithwyr gofal cymdeithasol sy’n aros am eu canlyniadau COVID-19. Mae’n rhaid i Weinidog Iechyd Cymru gael gwared ar y fiwrocratiaeth aneffeithiol sy’n ymestyn yr amser rhwng cynnal profion a derbyn canlyniadau.
“Po hiraf y mae gweithwyr gofal cymdeithasol iach yn aros i ffwrdd o’r gwaith, y mwyaf fydd y straen ar ein sector gofal cymdeithasol sydd eisoes yn ysgwyddo gormod o faich.
“Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y profion sydd ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol ar unwaith. Mae’r gallu cyfyngedig presennol i gynnal profion yn tarfu ar y broses o gyflwyno profion yn ehangach i sicrhau iechyd a diogelwch staff rheng flaen.
“Yn fy etholaeth fy hun yn Aberconwy, gyda’i phoblogaeth hŷn, rwy’n derbyn llawer o negeseuon pryderus ynghylch iechyd ein staff gofal cymdeithasol gwych.
“Rwy’n bryderus iawn i glywed eto am ddryswch o ran canllawiau ar ddefnyddio cyfarpar diogelu personol. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru arwain o’r blaen i sicrhau bod y canllawiau diweddaraf yn cael eu cyfathrebu’n glir.
“Mae’n rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddiogelu ein staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae mynediad at sianeli cyfathrebu clir ar gyfer ein staff rheng flaen yn hanfodol er mwyn i swyddogion cyhoeddus ddeall lle mae’r galw mwyaf am gyfarpar diogelu personol.
DIWEDD