Mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi ysgrifennu at y 22 awdurdod lleol i bennu faint o bobl sydd wedi marw o COVID-19 mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae Aelod Aberconwy hefyd wedi cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i’w bwrdd iechyd lleol i ganfod faint o breswylwyr lleol sydd wedi marw mewn gofal preswyl a nyrsio, ynghyd â lleoliad gofal EMI.
Mae gwybodaeth am effaith COVID-19 ar sector gofal cymdeithasol Cymru yn parhau i fod yn brin. Yr wythnos diwethaf, datgelodd Mrs Finch-Saunders, mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Mawrth, i Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ymateb:
“Ar hyn o bryd nid oes gennyf wybodaeth am nifer y preswylwyr cartrefi gofal sydd wedi dal COVID-19 ac sydd wedi marw yn sgil hynny neu sydd ar fin marw”. (WAQ79728)
Heddiw (20 Ebrill), mae Mrs Finch-Saunders, yn rhoi addewid i sefydlu ‘tryloywder agored a didwyll’ i sicrhau nad yw’r rhai sydd fwyaf agored i’r clefyd hwn yn cael eu dileu o ystadegau swyddogol.
Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Er y rhwystrau parhaus gan Lywodraeth Cymru, rwy’n addo sefydlu tryloywder agored a didwyll mewn perthynas â marwolaethau gofal cymdeithasol cysylltiedig â COVID-19.
“Rwyf wedi ysgrifennu at y 22 awdurdod lleol er mwyn coladu ystadegau gwerthfawr i bennu gwir effaith COVID-19 ar y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf.
“Er fy mod yn deall bod natur gymhleth y sector gofal cymdeithasol yn golygu ei bod yn anoddach coladu a dilysu ystadegau, mae’n rhaid i ni ymdrechu’n galetach i sicrhau nad yw’r rhai mwyaf agored i’r clefyd hwn yn cael eu dileu o ystadegau swyddogol.
“Un o nodweddion cymdeithas wâr yw sut mae’n gofalu am ei henoed. Fel hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, rwy’n galw eto ar Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i roi diweddariadau rheolaidd ar farwolaethau yn system gofal Cymru.
DIWEDD