Heddiw (15 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders AC - Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn yr Wrthblaid i’r Ceidwadwyr Cymreig - wedi condemnio’r ‘diffyg eglurder a thryloywder’ gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r sefyllfa COVID-19 mewn cartrefi gofal preswyl.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Cynulliad ar 30 Mawrth, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:
“A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o drigolion sydd wedi marw o ganlyniad i coronafeirws mewn cartrefi gofal?”
Yn ei ymateb, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Nid oes gennyf wybodaeth ar hyn o bryd am nifer y trigolion cartrefi gofal sydd wedi eu heintio â COVID-19 ac sydd wedi marw yn sgil hynny nac ar leoliad y marwolaethau.” (WAQ79728)
Mae wedi mynegi ei phryderon wrth i lu o elusennau yn y DU rybuddio bod y risg i’r henoed yn cael ei ‘ysgubo dan y mat’ a ddim yn cael eu cynnwys yn ffigurau coronafeirws y DU.
Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Er fy mod yn diolch i Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am ei ymateb i’r cwestiwn, rwy’n bryderus iawn gyda’r diffyg eglurder a thryloywder y mae’n ei gynnig yn ystod y cyfnod hwn o her sylweddol i’n sector gofal cymdeithasol.
“Yn hytrach na galluogi trafodaeth agored ac adeiladol ar y mater pwysig hwn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hepgor ystadegau gofal cymdeithasol o ddiweddariadau swyddogol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol.
“Nid yw y tu hwnt i gylch gwaith Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gymryd amser i goladu ystadegau gwerthfawr gan ein saith bwrdd iechyd i bennu gwir effaith COVID-19 ar y rhai sydd yn y perygl mwyaf.
“Fel hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, rwy’n annog Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ddarparu diweddariad rheolaidd ar farwolaethau yn system gofal Cymru.
“Un o nodweddion cymdeithas wâr yw sut y mae’n gofalu am ei dinasyddion hynaf. Os ydym am ddeall effaith COVID-19 ar ein cartrefi gofal yn ei gyfanrwydd, ni allwn adael i ddiweddariadau ystadegau swyddogol anwybyddu’r rhai sydd fwyaf agored i’r clefyd hwn.
DIWEDD