Mae Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, Janet Finch-Saunders AC, wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i roi cynllun wrth gefn ar waith er mwyn i weithwyr gofal cymdeithasol gael gafael ar gyfarpar diogelu personol, ac y bydd sefydliadau gofal iechyd yn cael cysylltiad llinell gymorth â Chanolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru pe bai oedi cyn derbyn cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol neu os oes cynnydd aruthrol annisgwyl yn y defnydd ohonynt.
Daw hyn ar ôl i gyngor BMA Cymru, y Coleg Nyrsio Brenhinol, a darparwyr gofal cymdeithasol leisio pryderon difrifol.
Mewn ymateb i’r datganiad, meddai Gweinidog yr Wrthblaid:
“Rydym yn byw mewn byd pryderus iawn, a hoffwn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth posib o fewn ein gallu er mwyn helpu i ddiogelu staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
“Os na edrychwn ni ar eu holau, mae posibilrwydd gwirioneddol na fydd digon o staff i ofalu amdanom ni, ein ffrindiau, ein cymdogion, pe byddem ni’n dal COVID-19.
“Mae nyrsys yn cael trafferth cael gafael ar gyfarpar diogelu personol, masgiau llygaid anaddas yn cael eu hanfon at feddygon teulu, a staff gofal cymdeithasol yn dal i weithio heb gyfarpar a gafodd eu haddo iddynt – mae’r rhain yn faterion sydd angen eu taclo ar frys.
“Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog wedi cydnabod bod problemau parhaus gyda darparu cyfarpar diogelu personol, a bod yr amserlen ailgyflenwi yn ansicr.
"Mae hyn nawr yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu canolbwyntio unwaith eto ar fynd i’r afael â phroblemau cyfarpar diogelu personol ar frys.
“Mae’r ffaith fod yna linell uniongyrchol i Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru os bydd cyflenwadau’n brin unrhyw le ar y rheng flaen, yn newyddion da.
“Mae angen inni i gyd ddod at ein gilydd i helpu, felly os ydych chi’n gofalu am bobl fregus neu sâl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn methu cael cyfarpar diogelu personol, rhowch wybod i mi. Rydw i yma i ofalu amdanoch, fel rydych chi’n gofalu amdanom ni.”
DIWEDD