Mae Janet Finch-Saunders AC - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid - wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (14 Ebrill) am gronfa £40 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gofal cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19 (Coronafeirws), ond nid heb rybudd.
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Wrth gwrs ein bod ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyhoeddiad am y cyllid hwn, sydd â’r nod o helpu i dalu am y costau cynyddol o gyfarpar diogelu personol sylfaenol, bwyd, costau staffio a TGCh, sy’n cael eu profi gan wasanaethau cymdeithasol oedolion. Dylid canmol unrhyw beth sy’n helpu i gadw ein gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn ddiogel a’u galluogi i wneud eu gwaith gwych.
“Fodd bynnag, nid arian newydd yw hwn, ond swm bach sydd wedi’i gymryd o’r ‘gronfa frwydro’ a gafodd ei sefydlu a’i chyhoeddi yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru, ac mae hanner y gronfa hon yn gyllid a ddyrennir gan Lywodraeth y DU i Gymru drechu’r pandemig hwn.
“Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Paul Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, ddoe am y £350 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU - gan ei ymestyn i £2 biliwn bron iawn i drechu Coronafeirws - mae angen i ni ddilyn yr arian a gweld sut, pryd, ar bwy ac yn lle mae’n cael ei wario gan weinyddiaeth Llafur Cymru.
“Rydym yn gweithio gydag Aelodau o bleidiau eraill yn ystod y pandemig hwn, ond ein gwaith ni fel yr wrthblaid yw dal ati i graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a sut mae’n gwario - ac mae’n bwysicach gwneud hynny nawr nac erioed.”