Heddiw (22 Ebrill), galwodd Janet Finch-Saunders – AC Aberconwy – ar wneuthurwyr y Gogledd, sydd â’r gallu i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, i gamu i’r adwy a chynnig eu gwasanaeth.
Mae’r Aelod yn coladu manylion wrth iddi annog Llywodraeth Cymru i ofyn i gwmnïau yng Nghymru gyfrannu at y gwaith o gynhyrchu. Byddai’n rhaid i wneuthurwyr gydymffurfio â rheoliadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o ran Cyfarpar Diogelu Personol, gyda’r cynnyrch terfynol yn gorfod cael ei gymeradwyo gan y bwrdd iechyd lleol. Ddoe, dywedodd Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd Cymru wrth gynhadledd newyddion mai dim ond digon o stoc o bob eitem oedd ar ôl i bara rhai dyddiau.
Daw ei galwad wrth i Syr Martin Evans, y gwyddonydd sydd wedi ennill Gwobr Nobel a chyn-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, ofyn i bob adnodd posibl gael ei ddefnyddio yn erbyn coronafeirws. Honnodd Syr Martin hefyd nad yw wedi derbyn ymateb ar wahân i gydnabod derbyn ei lythyr, er iddo ysgrifennu at y Prif Weinidog a Gweinidog Iechyd Cymru yn mynegi ei bryderon.
Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Rwy’n gofyn ar i unrhyw wneuthurwr yn y Gogledd sy’n gallu troi eu llinell gynhyrchu yn un a fyddai’n gallu cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol, i gysylltu â’m swyddfa ar unwaith.
“Mae gan y Gogledd amrywiaeth anhygoel o gwmnïau gweithgynhyrchu sy’n gweithio’n galed ac yn gallu addasu, ac sydd am gyfrannu at ymateb Cymru i COVID-19. Gyda’n gilydd, gallwn gamu i’r adwy a chynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol i’r staff rheng flaen.
“Mae’r datganiadau diweddar am stoc Cyfarpar Diogelu Personol gan Lywodraeth Cymru yn datgelu diffygion difrifol a phryderus iawn am y gadwyn gyflenwi bresennol. Mae’n rhaid i ni ddal ati i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddiogelu staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i fynd ati i roi’r dasg i’r cwmnïau anhygoel hyn sy’n gallu addasu i gynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol. Mae hi’n sefyllfa debyg i ryfel, ac rwy’n ffyddiog y gall busnesau Cymru fynd i’r afael â’r her yn llwyddiannus.”
DIWEDD