Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Cymdeithasol yr Wrthblaid, wedi ymateb gyda sioc heddiw (Ebrill 29) bod y Gweinidog Iechyd wedi gwrthod ymestyn profion Covid-19 (Coronafeirws) ar gyfer holl breswylwyr cartrefi gofal.
Yr wythnos diwethaf, galwodd Mrs Finch-Saunders am brofion gorfodol. Ddoe, rhoddodd Llywodraeth y DU addewid y byddai’n cyflwyno profion i holl breswylwyr cartrefi gofal, ond dywedodd y Gweinidog heddiw ar BBC Radio Wales ei fod wedi derbyn cyngor nad oedd profi pawb yn y sector yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae’n gwbl syfrdanol. Dydyn ni ddim yn gwybod hyd a lled yr haint mewn cartrefi gofal a chyfran y preswylwyr sydd wedi’u heffeithio, heb sôn am y staff sy’n gweithio’n agos gyda phobl a allai fod yn heintus dros ben.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn dod i ddeall beth yw’r gwir berygl i breswylwyr a staff yn ein cartrefi gofal. Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i wneud popeth o fewn ei gallu i atal y drasiedi ddynol afiach hon sy’n digwydd mewn cartrefi gofal rhag gwaethygu ymhellach.”
DIWEDD