Mae Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid i’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU i brofi pob preswylydd a staff cartref gofal y tybir bod ganddynt symptomau COVID-19.
Meddai Janet:
“Mae achosion o Covid-19 wedi’u cadarnhau neu dan amheuaeth mewn bron i un rhan o dair o gartrefi gofal yng Nghymru. Mae cartrefi gofal yn cartrefu rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, sydd wedi rhoi cymaint i’n gwlad, ac yn eu henaint, waeth beth yw eu cefndir, maent yn haeddu byw gweddill eu bywydau gydag urddas a pharch. Mae fy nghalon yn gwaedu dros staff cartrefi gofal sy’n gofalu am eu trigolion fel eu teulu eu hunain, sy’n rhoi eu hunain mewn perygl i sicrhau bod eu preswylwyr yn cael y gofal y maent yn ei haeddu ac mae’n dorcalonnus clywed hanesion trigolion yn ein gadael.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i sicrhau y gall y cartrefi gofal wneud defnydd o’r gallu dros ben yn y system brofi sydd wedi dod i’r amlwg yr wythnos hon, i roi’r diwedd ar y 15 prawf hurt y diwrnod i bob awdurdod lleol ar gyfer gofal cymdeithasol ac i ddal ati i feithrin gallu er mwyn sicrhau na anghofir am gartrefi gofal eto.”
DIWEDD