Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dirymu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1: Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (Ionawr 2015) yn llwyr. Mae’r penderfyniad, y mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi ymgyrchu drosto ers amser maith, wedi’i groesawu ganddi fel “cam call”.
TAN 1 a oedd yn cynnwys pwynt dadleuol ym mharagraff 6.2, a oedd yn golygu lle mae cyflenwad tir o dan y gofyniad 5 mlynedd neu lle mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi methu â chynnal astudiaeth, mae’r angen i gynyddu cyflenwad yn cael ei ystyried o ddifrif wrth ddelio â cheisiadau cynllunio.
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Rwy’n croesawu diddymu TAN 1 ac y gallwn gau'r drws o’r diwedd ar yr holl drafferthion y mae wedi’u hachosi.
“Mae’r ddogfen Llywodraeth Cymru hon a’i pholisi gwenwynig yn 6.2 wedi helpu ceisiadau cynllunio dadleuol i gael eu caniatáu yn Aberconwy.
“Yn ôl methodoleg Llywodraeth Cymru, methodoleg rwy’n ei gwrthwynebu, mae gan Gonwy lai na phum mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai, ac roedd TAN 1 yn galluogi datblygwyr i apelio yn llwyddiannus yn erbyn ceisiadau cynllunio a wrthodwyd ar y sail bod angen ystyried o ddifrif y diffyg honedig o gyflenwad tir ar gyfer tai.
“Wrth wrthwynebu’r datblygiadau yn ardal Conwy, roedd y polisi hwn gan Lafur Cymru yn ddraenen yn ystlys ein cymunedau, felly rwy’n falch dros ben ei fod wedi’i ddirymu.
“Mae’n warth bod synnwyr cyffredin heb ennill y dydd yn gynt.
“Dychmygwch, pe bai hyn wedi’i roi ar waith yn gynt, gallen ni fod wedi arbed nifer o dir glas rhag cael ei drefoli”.
DIWEDD