Heddiw (7 Ebrill) mae Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch-Saunders AC, wedi rhybuddio am yr ‘ofn a gorbryder dwys’ y mae llawer o bobl hŷn a bregus wedi teimlo ar ôl dod dan bwysau i lofnodi ffurflenni Na cheisier CPR.
Yn aml, mae llofnodi DNA-CPR yn benderfyniad personol dwys dros ben. Mae pryderon AC Aberconwy yn dilyn y datganiad ar y cyd ddoe gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Phrif Weithredwr Age Cymru, law yn llaw â’u swyddogion cyfatebol ledled y DU.
Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Rwyf wedi clywed am nifer o achosion sy’n peri pryder difrifol am benderfyniadau cyffredinol yn cael eu gwneud am yr opsiynau gofal a thriniaeth a fydd ar gael i bobl hŷn a bregus.
“Mae rhai yn teimlo dan bwysau i lofnodi ffurflenni Na cheisier CPR, gan deimlo ofn a gorbryder difrifol ynghylch y penderfyniad pwysig a phersonol hwn.
“Mae dewis llofnodi DNA-CPR yn hawl unigolyn, ac yn un na ddylid ei gorfodi er mwyn ysgafnhau’r pwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd.
“Er fy mod yn cydnabod y llwyth gwaith enfawr sy’n wynebu staff rheng flaen ar hyn o bryd mewn cyfnod hynod o anodd, rwyf am i benderfyniadau mor bwysig gael eu gwneud drwy drafodaethau gonest rhwng cleifion, meddygon a theuluoedd.
“Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am gyhoeddi canllawiau brys i staff rheng flaen, i sicrhau y bydd unrhyw benderfyniad DNA-CPR yn ystyried y peryglon a’r manteision, ynghyd â dymuniadau personol.
DIWEDD