Mae Janet Finch-Saunders AC wedi pledio ei chefnogaeth i ymgyrch llawr gwlad i ddangos cefnogaeth i’n staff sy’n gweithio mor galed yn GIG Cymru a’r gwasanaethau brys golau glas.
Ar ôl dechrau ym Mro Morgannwg yn ôl pob sôn, mae’r ymgyrch wedi gweld pobl yn clymu rhubanau glas wrth oleuadau stryd, rheiliau a meinciau parc i roi “diolch” gweledol i nyrsys, meddygon, parafeddygon, glanhawyr a’r holl staff sy’n gweithio i frwydro yn erbyn Covid-19.
Wrth siarad am y fenter, dywedodd Paul Davies AC, Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymreig Cynulliad Cymru:
“Yn y cyfnod anhygoel hwn, mae’n rhaid i ni ddangos ein gwerthfawrogiad a’n diolch enfawr i’r rhai sy’n gwneud gwaith anhygoel i’n cadw yn ddiogel ac achub bywydau.
“Ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, clymwch ruban las y tu allan i’ch tŷ, neu ar eich giât, neu tynnwch lun a lliwio rhuban las i roi ar ffenestr flaen, unrhyw le lle gall staff anhygoel GIG Cymru weld ein cefnogaeth a gadewch i ni droi Cymru yn las ar gyfer y Gwasanaeth Arwyr Gwladol.”
DIWEDD