Dear Editor & North Wales Weekly News readers,
As 2013 draws to a close, I would like to take this opportunity to reflect on the past 12 months as your Assembly Member.
Throughout the year, I have been privileged to meet with many constituents in the surgeries that I have held across Aberconwy. These sessions have been incredibly useful for me in understanding your most pressing concerns and to support you in this regard.
The recent confirmation regarding progress on the redevelopment plans for the Minor Injuries unit at Llandudno Hospital was welcome news, as is the pier refurbishment to the landing stage which already sees two cruise ships booked for next year bringing more visitors into Conwy.
During the summer I was invited to and attended many Summer Fetes, of which many were within our Rural Areas in the Conwy Valley.
In political democracy terms this year saw the passage of much legislation and new Bills, all of which are intended to prove that the further devolution of power to Wales is working. News of further powers regarding business rates and borrowing powers by the UK Government further endorses that point.
As Vice Chair of the Cross Party Group on the ‘Horse’ in the Assembly, I was heartened to receive many emails supporting the introduction and passage of the Control of Horses (Wales) Bill providing security for land owner’s rights, but more importantly aimed to secure better animal welfare for our equine friends.
For my part I have been hugely impressed by the number of volunteers within our communities who work hard every day across the many voluntary and charitable bodies in Aberconwy. These tireless individuals give so much of their own time and commitment raising much needed funds, whilst also providing much support to help those much less fortunate than ourselves.
Christmas is a time that we offer our thoughts and prayers to those who are feeling unwell or those nursing a sick family member and those mourning the loss of a dearly departed relative. In particular members of our brave armed forces and their families, who may be serving our country and away from home this Christmas.
It is also at this festive time that we remember all those who work hard all year round, with a genuine dedication to duty within their own chosen vocation, our teachers, nurses and hospital staff, our serving police and fire personnel, ambulance workers, our local lifeboat organisations and our coastguard. Not forgetting our postal team who ensure important news is delivered on time and those working within our hospice movement. Those working hard in our churches and religious organisations, who are always on call to offer spiritual ministrations during difficult times and those working within our own local authority delivering vital and important services to many.
A huge thanks must go to our local business owners, hoteliers and staff all working hard daily over the year but also too across the festive period, especially those delivering information and our news on a consistent daily basis such as the Editor and staff at the Trinity Mirror and the Daily Post Group. Our local Mayor's and elected councillors too. Thank you one and all.
All that remains is for me to wish all the constituents of Aberconwy a "Merry Christmas and a Happy New Year"
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
God Bless you all.
---
Annwyl Olygydd a darllenwyr y North Wales Weekly News,
Wrth i 2013 dynnu at ei therfyn, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fwrw golwg yn ôl ar y 12 mis diwethaf fel eich Aelod Cynulliad.
Gydol y flwyddyn, rwyf wedi cael y fraint o gyfarfod cymaint o etholwyr yn fy nghymorthfeydd ar hyd a lled Aberconwy. Mae’r sesiynau hyn wedi bod yn fuddiol dros ben i mi ac wedi fy helpu i ddeall yr hyn sy’n eich poeni go iawn a’ch helpu i ddatrys y problemau hyn.
Roedd y cadarnhad diweddar a gafwyd mewn perthynas â’r cynlluniau i ailddatblygu’r uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Llandudno yn newyddion da, yn ogystal â’r bwriad i adnewyddu glanfa’r pier, a’r newyddion bod dwy long bleser eisoes wedi bwcio i lanio yno yn y flwyddyn newydd, gan ddenu mwy o ymwelwyr i Gonwy.
Yn ystod yr haf, cefais wahoddiad i lawer o arddwestau a ffeiriau, llawer ohonyn nhw yng nghefn gwlad Dyffryn Conwy.
O safbwynt democratiaeth wleidyddol, gwelwyd sawl deddfwriaeth a Bil newydd yn cael eu pasio eleni, a nod pob un yw profi bod datganoli grym pellach i Gymru yn gweithio. Mae’r newyddion am bwerau pellach ym meysydd ardrethi busnes a phwerau benthyca gan Lywodraeth y DU yn ategu hyn ymhellach.
Fel Is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y ‘Ceffyl’ yn y Cynulliad, cefais hwb o dderbyn llawer o negeseuon e-bost yn cefnogi’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) a fydd yn diogelu hawliau tirfeddianwyr, ond yn anad dim, yn ceisio sicrhau lles anifeiliaid gwell i gyfaill dyn, y ceffyl.
Mae nifer y gwirfoddolwyr yn ein cymunedau sy’n gweithio’n galed bob dydd ar ran elusennau a chyrff gwirfoddol ledled Aberconwy wedi bod yn destun balchder mawr i mi. Mae’r unigolion hyn yn gweithio’n ddiflino ac yn rhoi cymaint o’u hamser a’u hymrwymiad personol i godi arian sydd gwirioneddol ei angen, gan ddarparu cymorth i’r rhai hynny sy’n llawer llai ffodus na ni.
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n meddyliau a’n gweddïau ni gyda’r rhai sy’n wael neu’r rhai sy’n gofalu am aelod sâl o’r teulu, a’r rhai sy’n galaru ar ôl colli anwyliaid. Yn enwedig, rydym ni’n cofio am aelodau ein lluoedd arfog dewr a’u teuluoedd - rhai ohonyn nhw yn gwasanaethu eu gwlad ac i ffwrdd o gartref y Nadolig hwn.
Dyma’r adeg o’r flwyddyn rydym ni hefyd yn cofio am y rhai sy’n ymlafnio gydol y flwyddyn, gyda gwir ymroddiad i’w galwedigaeth - athrawon, nyrsys, staff ysbytai, ein heddluoedd a’n gwasanaethau tân, gweithwyr ambiwlans, timau ein badau achub a gwylwyr y glannau. Heb anghofio’r rheiny sy’n gweithio yn y post ac sy’n sicrhau bod newyddion pwysig yn ein cyrraedd yn brydlon a’r rhai sy’n gweithio mewn hosbisau. Hefyd, y rhai sy’n gweithio’n ddiflino mewn eglwysi ac mewn sefydliadau crefyddol, sydd bob amser wrth law i gynnig gweinidogaeth ysbrydol i rai mewn trallod ac i’r rheiny sy’n gweithio yn ein hawdurdod lleol ac yn darparu gwasanaethau hanfodol a phwysig i gynifer ohonom.
Diolch o galon hefyd i berchnogion ein busnesau lleol, rheolwyr gwestai a staff sy’n gweithio’n galed gydol y flwyddyn gron ond hefyd dros yr ŵyl, yn enwedig y rhai sy’n darparu ein gwybodaeth a’n newyddion yn ddyddiol, megis Golygydd a staff Trinity Mirror a Grŵp y Daily Post. A diolch hefyd i’n Meiri lleol a’n cynghorwyr etholedig hefyd. Diolch i chi un ac oll.
Ac i gloi, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl etholwyr Aberconwy.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
Pob bendith i chi.
Janet Finch-Saunders AM/AC
Aelod Cynulliad dros Aberconwy
Assembly Member for Aberconwy