Datganiad gan Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae pobl hŷn a’u teuluoedd yn dal i godi pryderon ynghylch y materion sy’n wynebu cartrefi gofal ar hyn o bryd, fel mynediad at driniaethau a gwasanaethau’r GIG, profion ar gyfer staff a thrigolion a faint o gyfarpar diogelwch personol hanfodol sydd ar gael. Mae’n gyfnod eithriadol o bryderus i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a’u ffrindiau a’u teuluoedd. Mae hi’n hanfodol bod rhagor yn cael ei wneud i ddiogelu pobl hŷn ac i gefnogi’r rheini sy’n gweithio gyda nhw.
“Rwyf felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:
- Cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddarparu’n effeithiol ac yn gyson i gartrefi gofal a bod ganddynt ddigon o ddeunyddiau eraill i reoli’r haint fel hylif diheintio dwylo;
- Profion ar gael i drigolion sy’n dangos symptomau Covid-19 er mwyn i staff gofal ac eraill allu darparu gofal a thriniaeth briodol yn ddiogel;
- Trigolion yn gallu cael gafael ar wasanaethau a thriniaethau’r GIG sydd eu hangen arnyn nhw (gan gynnwys ar gyfer Covid-19) ac nad oes unrhyw bolisïau cyffredinol yn cael eu rhoi ar waith sy’n golygu na fyddai trigolion cartrefi gofal yn cael triniaeth mewn ysbyty os bydd eu cyflwr yn cyfiawnhau hynny;
- Pob cartref gofal yn gallu cael gafael ar gefnogaeth ac arweiniad gofal iechyd yn gyflym, gan gynnwys unrhyw angen am hyfforddiant, er enghraifft ar reoli haint;
- Yr holl staff sydd ar gael yn gallu gweithio drwy sicrhau profion i staff a allai fod yn hunanynysu oherwydd symptomau sydd ganddyn nhw, neu aelodau eraill o’u haelwyd;
- Cyllid brys yn cyrraedd cartrefi gofal yn gyflym i dalu am gostau uwch staff asiantaeth i lenwi bylchau, i ddiwallu’r anghenion a allai godi ar gyfer lefelau staffio uwch, ac i dalu am gostau ychwanegol fel rheoli haint; a
- Gwybodaeth yn cael ei chofnodi a’i chyhoeddi am lefelau’r haint a marwolaethau, er mwyn cael tryloywder ac er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail data, gan gynnwys penderfyniadau ar ddyrannu adnoddau.
“Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu penodol ar frys sy’n nodi’r hyn a fydd yn cael ei wneud i ddiogelu pobl hŷn a gweithwyr gofal a lleihau lledaeniad Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru, ar sail y mesurau uchod.
“Gan fod amheuaeth bellach fod achosion o’r coronafeirws mewn bron i un rhan o dair o gartrefi gofal Cymru, mae angen gweithredu ar unwaith neu bydd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn agored iawn i’r feirws hwn, gan roi eu bywydau a bywydau staff cartrefi gofal mewn perygl.
“Carwn ddiolch i staff cartrefi gofal ar draws y wlad am eu holl waith hanfodol, a chymaint ohono’n cael ei wneud heb sylw, i gefnogi pobl hŷn yn y cyfnod anodd hwn wrth iddynt wynebu mwy o bwysau nag erioed.
“I sicrhau bod y gefnogaeth hanfodol hon yn gallu parhau, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn arwain ac yn gweithredu’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’r bobl sy’n gofalu amdanynt, yn cael y gefnogaeth a’r cyfarpar sydd eu hangen arnynt i’w cadw’n ddiogel ac yn iach.”
DIWEDD