Yn dilyn galwadau gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, i hwyluswyr twristiaeth ar-lein atal archebion gan bobl sydd eisiau dod yma ar eu gwyliau yn ystod yr argyfwng COVID-19, mae Airbnb wedi cymryd camau cadarnhaol.
Ar ôl clywed gan Reolwr Polisi Cyhoeddus Airbnb yn y DU ac Iwerddon, mae Aelod Cynulliad Aberconwy bellach yn deall:
- O 9am heddiw (9/04/2020) ni fydd yn bosibl archebu arhosiad ar Airbnb yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud;
- Ni fydd yn bosibl archebu arhosiad yn y Deyrnas Unedig sy’n dechrau ar neu cyn 18 Ebrill 2020 (bydd y dyddiad hwn yn cael ei adolygu);
- Maent wedi e-bostio pob gwestai sydd eisoes ag archebion, gan dynnu sylw at ganllawiau’r llywodraeth a dweud wrthynt am beidio â theithio oni bai bod hynny’n hanfodol;
- Mae gwesteion sydd ag archebion a wnaed cyn 14 Mawrth ar gyfer dyddiadau rhwng 14 Mawrth a 31 Mai yn gallu hawlio ad-daliad llawn drwy’r polisi canslo;
- Os mynegir pryderon gydag Airbnb am westeion yn ein cymuned sydd dan amheuaeth o dorri’r rheoliadau argyfwng presennol, bydd Airbnb yn cadarnhau gyda’r gwesteion bod yr arhosiad at ddiben hanfodol.
- Ni fydd arosiadau a wneir fel rhan o’r rhaglen Arosiadau Rheng Flaen - arosiadau am ddim i weithwyr y GIG a staff meddygol eraill - nac arosiadau sy’n cael eu talu neu’n cael cymhorthdal ar gyfer arosiadau hanfodol eraill a gweithwyr allweddol yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.
Wrth roi sylwadau ar ôl cael ei hysbysu o’r newid pwysig gan Airbnb, dywedodd Janet:
“Hoffwn ddiolch i Airbnb am wrando ar y pryderon niferus a fynegwyd gennyf i ac unigolion ledled Cymru.
“Er y byddwn i wedi hoffi gweld mesurau heddiw yn cael eu cyflwyno yn gynt, rwy’n falch iawn na fydd yn bosibl bellach archebu arhosiad gydag Airbnb yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud.
“Yn hanesyddol, mae Gwyliau’r Pasg yn un o adegau prysuraf y sector twristiaeth yn Aberconwy, gyda miloedd yn dewis archwilio a mwynhau’r ardal syfrdanol. Fodd bynnag, ddim eleni.
“I ddiogelu pobl fregus a’n sector iechyd a gofal, mae’n rhaid i ymwelwyr gadw draw ac aros yn eu hardaloedd eu hunain.
“Mae penderfyniad Airbnb yn hwb mawr i ddyhead Cymru gyfan i ymwelwyr ddod yn ôl rhywbryd eto.
“Dylai fod llai o gyfle nawr hyd yn oed i unigolion anwybyddu cyngor arbenigwyr drwy ddod i’r Gogledd”.
DIWEDD