Heddiw (8 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders, Aelod Aberconwy, yn annog preswylwyr i barchu’r Cod Cefn Gwlad er mwyn cefnogi ‘iechyd a llesiant’ ffermwyr Cymru.
Janet Finch-Saunders AM/AC, Member for Aberconwy, today (8 April) urges residents to respect the Countryside Code to support the ‘health and well being’ of Welsh farmers. Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru ei bod wedi derbyn nifer uchel o alwadau gan ffermwyr am aelodau’r cyhoedd yn cerdded ar draws tir ffermio, gan adael giatiau ar agor a gadael eu cŵn i redeg yn wyllt.
Mae’r Undeb yn erfyn ar bobl, yn enwedig pobl sy’n cerdded eu cŵn, i ddilyn rheolau’r Llywodraeth:
- Peidiwch â theithio – gwnewch eich ymarfer corff yn agos i’ch cartref bob tro.
- Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi eich dwylo - mae giatiau, camfeydd a strwythurau awyr agored eraill yn cael eu cyffwrdd yn rheolaidd.
- Peidiwch ag ymgymryd â gweithgareddau newydd neu beryglus.
- Dilynwch y Cod Cefn Gwlad - meddyliwch am ffermwyr sy’n gweithio yn galed i gadw ein silffoedd yn llawn a’n seilwaith ar waith.
- Cadwch gŵn ar eu tennyn.
Yn ei datganiad, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Mae ein ffermwyr anhunanol yn gweithio yn ddiflino i fodloni galw cynyddol gan ddefnyddwyr, gan addasu’n gyflym i ddiwallu anghenion brys ein harchfarchnadoedd a’n siopau cornel.
“Wrth i ffermwyr Cymru barhau i ymroi i fwydo’r genedl, mae’n rhaid i ni fod yn barod i gynnig ein cymorth. Gallwn wneud hyn drwy barchu’r tir sy’n gartref ac yn weithle iddynt.
“Rwyf wedi clywed sawl tro bod llawer o ffermwyr Cymru yn y categori bregus. Mae hyn yn golygu byddant yn hunanynysu yn ogystal â gofalu am dda byw.
“Trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gallwch sicrhau iechyd a diogelwch yr arwyr amaethyddol hyn.
“Hoffwn hefyd atgoffa pawb i fwyta’n lleol. Trwy gefnogi ffermwyr Cymru yn ystod y cyfnod enbydus hwn – boed yn gig oen neu ddofednod, cynnyrch llaeth neu gnydau – gallwn gefnogi’n ariannol y rhai sy’n gweithio galetaf i ddiogelu ein llesiant maethol.
DIWEDD