Croesawodd Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ac AC Aberconwy, gyhoeddiad Ysgrifennydd Iechyd y DU bod cynlluniau yn cael eu llunio i adael i anwyliaid ffarwelio â pherthnasau sy’n marw mewn cartrefi gofal. Dywedodd:
“Bydd teuluoedd o blaid cynlluniau Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd, i’w gwneud yn haws iddynt ffarwelio â pherthnasau sy’n marw mewn cartrefi gofal.
“Nid yn unig y mae’r amser gyda pherthynas sy’n marw yn emosiynol dros ben, ond mae’n aros yng nghof y teulu am byth.
“A dyna pam fy mod yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith a dilyn esiampl Llywodraeth y DU yma yng Nghymru.
“Mae gormod o deuluoedd wedi methu â ffarwelio â’u hanwyliaid yn ystod y pandemig hwn. Rwy’n cydymdeimlo o waelod calon â phawb sydd wedi’u heffeithio.”
DIWEDD