Heddiw (16 Ebrill) mae Janet Finch-Saunders AC - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid - wedi galw eto am i bobl sy’n cael eu trosglwyddo neu’n dychwelyd i gartref gofal preswyl i gael eu profi am COVID-19. Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi pwysau ar Lafur Cymru i roi sicrwydd y bydd pawb sy’n mynd o’r ysbyty i ofal cymdeithasol yn cael eu profi am Goronafeirws ac yn ymneilltuo tan i’r canlyniadau ddod i law.
“Mae’n rhaid i ni wneud hyn i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf mewn angen, y rhai sy’n dychwelyd o’r ysbyty a’r rhai, fel sy’n debygol, a fydd yn gwneud hynny yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
“Felly heddiw, rwy’n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i roi sicrwydd na fydd cartrefi gofal yn gorfod derbyn cleifion heb gael canlyniadau profion. “Mae hyn yn hollbwysig i ddiogelu preswylwyr a’r staff.
“Preswylwyr cartrefi gofal neu’r rhai sy’n mynd i gartrefi gofal yw’r bobl mwyaf bregus yng Nghymru, a gweddill y DU, ac felly dylent ddilyn y canllawiau a awgrymwyd gan Matt Hancock AS, Ysgrifennydd Iechyd y DU, i gynnal y profion hyn.
“Nid ydym yn gwybod pa mor gyffredin yw’r feirws mewn cartrefi gofal na’r gyfran o breswylwyr sydd wedi’u heffeithio, na’r mater o staff sy’n gweithio yn agos i bobl a allai fod yn heintus iawn.
“Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn pennu’r gwir risg i breswylwyr a staff ein cartrefi gofal. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i wneud popeth o fewn ei gallu rhag troi argyfwng yn drychineb.
“Dyma’r unig ffordd o ddiogelu’r rhai sydd yn y perygl mwyaf, a’r rhai yn yr angen mwyaf.”
DIWEDD