Wrth ymateb i hanesion am bobl hŷn yn cael eu targedu gan dwyllwyr, dywedodd Janet Finch-Saunders, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ac AC Aberconwy:
“Mae’n frawychus bod troseddwyr yn ceisio llenwi eu pocedi drwy fanteisio ar yr hinsawdd sydd ohoni.
“Mae’r heddlu yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ar ôl cyfres o achosion honedig.
“Mae mor bwysig bod yn wyliadwrus, oherwydd dulliau soffistigedig y twyllwyr hyn – lle mae rhai hyd yn oed wedi cogio bod yn weithwyr nwy mewn ymgais i fynd i mewn i’ch cartref.
“Mae angen i ni atal y twyllwyr hyn nawr.
“Felly, os ydych chi wedi gweld achosion hyn neu wedi bod yn ddigon anffodus i gael eich twyllo, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r heddlu.
“Heb i chi roi gwybod i’r heddlu, ni fyddant yn gwybod hyd a lled y broblem.”
DIWEDD