Heddiw (21 Ebrill), fe wnaeth Janet Finch-Saunders - Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi gofalwyr maeth Cymru a allai fod yn cael anhawster gyda’u harian yn sgil pandemig byd-eang COVID-19.
Mae llawer o ofalwyr maeth yn wynebu ansicrwydd ariannol cynyddol yn sgil yr argyfwng coronafeirws. Mae sefydliadau maethu blaenllaw bellach wedi galw ar ofalwyr maethu, nad ydynt yn gallu maethu oherwydd cyfyngiadau COVID-19, i dderbyn tâl cadw. Mae elusennau hefyd yn dweud bod teuluoedd yn cael eu rhoi dan bwysau cynyddol wrth i sesiynau seibiant gael eu canslo, yn unol â’r cyngor i aros gartref.
Mae Gweinidog yr Wrthblaid wedi dweud nawr ei bod yn credu y dylid darparu cymorth ariannol ychwanegol i dalu costau ychwanegol annisgwyl gweithgareddau a deunyddiau, gan gynnwys ad-dalu costau prynu technoleg sydd wedi cymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb gyda theulu biolegol teulu.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae’n rhaid i ni gyd gydnabod y rôl llawn her ond hollbwysig y mae ein gofalwyr maeth rhagorol yn ei chwarae wrth ddarparu cartref sefydlog a llawn cariad i lawer o blant bregus yng Nghymru.
“Er mwyn hwyluso gwell dyfodol ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i ni roi gwell cymorth i’n gofalwyr maeth hael yn y cyfnod anodd hwn.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ar unwaith i beth arall ellir ei wneud i roi gwell cymorth i’r gofalwyr maeth hyn yng Nghymru a allai fod yn cael anhawster gyda’u cyllid yn sgil y pandemig COVID-19 byd-eang.
“Mae’n bwysig cynnal llwybrau cyfathrebu gyda theulu biolegol y plentyn, ac felly rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru hefyd ymchwilio i ffyrdd o ad-dalu’r costau ychwanegol annisgwyl a allai ddeillio o orfod darparu sianeli cyfathrebu newydd.
DIWEDD