Mae Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a hyrwyddwr Pobl Hŷn yr Wrthblaid, wedi siarad am ei sioc a’i phryder dros staff ar ôl i arbenigwr diwydiant rybuddio y ‘gallai hanner cartrefi gofal Cymru gau’ o fewn blwyddyn. Wrth siarad dros y penwythnos, awgrymodd Mario Kreft, Fforwm Gofal Cymru, bod llawer o berchnogion cartrefi gofal yn cymryd benthyciadau neu’n ystyried cau ar unwaith oherwydd costau cynyddol a gostyngiad mewn refeniw.
Mae 643 cartref gofal ar gyfer pobl dros 65 oed yng Nghymru. Heddiw (27 Ebrill), mae Mrs Finch-Saunders wedi annog Llywodraeth Cymru i roi mynediad ar unwaith at ei phecyn £40 miliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion ledled y pandemig coronafeirws.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Rwy’n bryderus iawn gyda’r rhybudd di-flewyn-ar-dafod hwn. Pe bai hyn yn digwydd, bydd yr effaith ar bobl yn erchyll i’r preswylwyr, eu teuluoedd, a gweithwyr cartrefi gofal yma yng Nghymru.
“Mae llawer o gartrefi gofal wedi gwneud y penderfyniad anodd i gyfyngu ar dderbyniadau newydd, gan y gallai cyflwyno cleifion heb eu profi i’w cartrefi arwain at fygythiad gwirioneddol i iechyd a llesiant staff a phreswylwyr.
“Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi addewid o £40 miliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol i oedolion gydol yr argyfwng COVID-19, ond mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud eu bod angen y cronfeydd hyn ar unwaith.
“Mae ein staff gofal cymdeithasol rheng flaen hael hefyd angen tryloywder ynghylch beth arall fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r sector gan fod meddwl am golli 300 neu fwy o gartrefi gofal yn frawychus.
“Mae staff cartrefi gofal yn gofalu am eu preswylwyr fel eu teuluoedd eu hunain. Mae’n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi’r diwydiant hollbwysig hwn sydd dan ormod o bwysau yn ystod y cyfnod anodd yma.
DIWEDD