Heddiw (23 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders AC wedi annog Gweinidogion Cymru i gytuno i gael eu craffu ac ymateb i gwestiynau a llythyrau Aelodau ar unwaith. Daw ei datganiad wrth i nifer cynyddol o Aelodau ddweud nad ydynt wedi derbyn ymateb i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad neu lythyrau uniongyrchol i Weinidogion.
Mae llawer o Aelodau wedi troi at system Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad yn dilyn cyfyngiad ar gyfraniadau mewn cyfarfodydd llawn. O dan reolau’r Cynulliad, gofynnir i Aelodau ateb y Cwestiynau hyn o fewn saith/wyth diwrnod ond nid oes yn rhaid iddynt wneud hynny. Mae’r holl atebion ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi yng Nghofnodion y Trafodion. Ers dechrau’r argyfwng COVID-19, mae Aelodau wedi’u cyfyngu i gyflwyno deg yn unig yr wythnos.
Ddoe, methodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi’r datganiad hwn i Aelodau cyn dechrau trafodion gan olygu nad oedd y Cyfarfod Llawn yn gallu craffu ar ei gyhoeddiadau yn iawn. Mae Mrs Finch-Saunders, Aelod Aberconwy, wedi ysgrifennu at y Llywydd i fynegi ei phryderon am effeithlonrwydd cyfarfodydd o’r fath.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Dro ar ôl tro, mae Gweinidogion Cymru yn methu ymateb yn ddigonol i gwestiynau ysgrifenedig pwysig y Cynulliad a llythyrau uniongyrchol yn ystod yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
“Law yn llaw â chyfyngiadau ar gyfraniadau mewn cyfarfodydd llawn, mae hyn yn golygu nad yw ymholiadau perthnasol gan aelodau o’r cyhoedd sy’n gweithio’n galed ac yn bryderus yn cael eu hateb.
“Er fy mod yn gwerthfawrogi’r pwysau sydd ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystod y sefyllfa hon sy’n datblygu yn gyflym, mae’n rhaid cynnal gwiriadau ac archwiliadau trylwyr os ydym ni am gynnal hyder yn ein sefydliadau cyhoeddus.
“Fel yr wrthblaid swyddogol i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi addewid i ddwyn Llywodraeth Llafur Cymru i gyfrif yn adeiladol gydol y pandemig COVID-19”.
“Rwy’n annog Gweinidogion Cymru i sicrhau eu bod ar gael i fod yn destun craffu ac ymateb i gwestiynau a llythyrau Aelodau ar unwaith.
DIWEDD