Mae cais wedi’i wneud am ganolfannau profion mewn cymunedau canolog yng nghefn gwlad y Gogledd. Daw hyn ar ôl agor canolfannau profi drwy ffenest y car yn Llandudno a Chaerfyrddin yr wythnos diwethaf.
Bydd staff o’r GIG, yr heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans, cartrefi gofal a staff critigol eraill yn cael eu profi ar ôl gwneud apwyntiad yn y ganolfan yn Llandudno. Byddant yn cael prawf i swabio eu hunain heb adael eu cerbydau.
Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Yr wythnos diwethaf gofynnais am ragor o wybodaeth am gynlluniau ar gyfer canolfannau profi yn y Gogledd, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor galonogol yw gweld un eisoes wedi agor yn Llandudno yr wythnos hon.
“Bydd y ganolfan newydd ar gyfer profi drwy ffenest y car yn rhan ganolog o’n hymateb i COVID-19 yn y Gogledd.
“Mae sicrwydd wedi’i roi bod mesurau atal heintio cadarn ar waith i ddiogelu pobl, staff a’r gymuned ehangach, ond rwy’n bryderus am thema sy’n gyson dros Gymru gyfan: mae’r canolfannau mewn ardaloedd arfordirol yn bennaf.
“Gallwch yrru i’r de am awr cyn gadael sir Aberconwy a Chonwy, felly bydd rhai gweithwyr rheng flaen yn teithio cyn belled â hynny am brawf.
“Rwy’n siŵr y byddem yn gallu gwneud yn well na hyn ac edrych ar logisteg sefydlu canolfannau profi mewn ardaloedd gwledig canolog.
“Yn ôl yr Adolygiad o brofion ar gyfer Covid-19, roedd cynlluniau ar waith i gael seilwaith ar gyfer y Gogledd i gyd. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i weld a oes posibilrwydd o wneud hyn yn fwy hygyrch i’r rhanbarth cyfan, yn hytrach na’r arfordir yn unig”.
DIWEDD