Heddiw (28 Ebrill) mae Janet Finch-Saunders - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu cyhoeddiad y Canghellor am ‘Fenthyciadau Adfer’, gan alluogi busnesau i fenthyg rhwng £2,000 a £5,000 a chael mynediad at arian parod o fewn dyddiau.
O dan y cynllun, bydd y benthyciadau yn ddi-log am y 12 mis cyntaf. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu gwarant 100% i fenthycwyr am y benthyciad ac yn talu unrhyw ffioedd am y 12 mis cyntaf. Ni fydd unrhyw ad-daliadau yn ddyledus yn ystod y 12 mis cyntaf. Mae Llywodraeth y DU yn dweud y gall busnesau wneud cais ar-lein ar ffurflen fer a syml.
Gan roi sylwadau ar y cyhoeddiad a wnaed gan yr Aelod Seneddol, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Rwy’n gwbl ymwybodol o’r pryder a rannwyd gan sawl busnes yn Nyffryn Conwy am effaith COVID-19 ar eu hincwm a’u staff.
“Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth digynsail i ddiogelu swyddi, busnesau ac incwm. Bydd y cynllun ‘Benthyciad Adfer’ hwn yn cynnig cyfle i achub sawl busnes yn Nyffryn Conwy.
“Bydd y cynllun hwn sydd wedi’i dargedu’n ofalus yn cynnig cymorth i’r busnesau sydd ei angen fwyaf. Mae hyn yn profi bod swyddogion cyhoeddus nid yn unig yn gwrando, ond hefyd yn ymateb i bryderon perchnogion busnesau.
“Rwy’n parhau’n benderfynol o ran fy ymrwymiad i helpu perchnogion busnesau yng Nghonwy i oroesi yn y cyfnod anodd hyn. Rwy’n annog unrhyw unigolion sydd â phryderon i gysylltu â’m swyddfa er mwyn i mi allu cyflwyno sylwadau ar eich rhan.
DIWEDD