Mae Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid wedi addo craffu ar weinyddiaeth Llafur Cymru ar ôl iddi gyhoeddi heddiw (29 Ebrill) becyn £10 miliwn i helpu i bontio pobl rhwng yr ysbyty a’r cartref wrth iddynt wella o COVID-19. Hyd yma, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu tua £2 biliwn i fynd i’r afael â’r pandemig yng Nghymru.
Meddai’r Aelod o’r Senedd, Janet Finch-Saunders:
“Mae staff gofal cymdeithasol yn arwyr go iawn yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws, ac felly rwy’n croesawu cyhoeddiad heddiw, gan obeithio y bydd yn eu galluogi i gael yr adnoddau ac yn rhoi iddyn nhw’r capasiti i helpu pobl i wella yn y lle gorau iddyn nhw: yn eu cartrefi.
“Fodd bynnag, mae angen i ni weld nawr sut bydd y £10 miliwn yn cael ei ddyrannu ar lawr gwlad a pha gamau fydd yn cael eu cymryd gan fyrddau iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector i hwyluso hyn, ac felly, fel arfer, byddwn yn craffu’n frwd ar y broses o ddyrannu cyllid.”
DIWEDD