Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd a’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi lleisio ei phryderon ynghylch y ffaith bod pathogen ffwngaidd sy'n effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed wedi'i ddarganfod ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru.
Yn ôl adroddiadau, mae'r Phytophthora pluvialis yn achosi coed i fwrw nodwyddau ac mae’n gallu effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydden Douglas a sawl rhywogaeth pinwydd. Gan nad yw'r clefyd erioed wedi'i ganfod yn Ewrop o'r blaen, mae ymchwil yn parhau ar hyn o bryd i ddeall a allai rhywogaethau eraill gael eu heffeithio.
Er mwyn deall pa gamau rhagweithiol fydd yn cael eu cymryd i leihau'r lledaeniad ar dir cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, gofynnodd Janet gwestiwn ysgrifenedig i'r Gweinidog Newid Hinsawdd:
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru a thirfeddianwyr i reoli a dileu phytophthora pluvialis, ymhellach i’r achosion a adroddir drwy'r porth ar-lein?
Ychwanegodd Janet:
“Fel ceidwaid y tir hwn, mae gan bawb ran i'w chwarae i atal plâu a phathogenau rhag lledaenu yn ein coetiroedd. Mae mynd am dro drwy goedwigoedd yn beth hynod boblogaidd gyda llawer o bobl dros yr ŵyl, felly rwy'n gofyn i drigolion helpu i atal y lledaeniad drwy gymryd camau syml fel glanhau esgidiau, teiars beics a phawennau anifeiliaid anwes.
“Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner ledled y DU i rannu gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth. O gofio bod Adroddiad Asesiad Risg Newid Hinsawdd 3 wedi manylu ar y risg gynyddol a achosir gan blâu a phathogenau, ac nad yw natur yn cydnabod unrhyw ffiniau, bydd cydweithrediad o'r fath yn rhan allweddol o'n hymateb.
“Yn y cyfamser, rwy'n annog trigolion a thirfeddianwyr i gadw llygad barcud am arwyddion o Phytophthora, pluvialis, yn enwedig ar goed hemlog y gorllewin, ffynidwydden Douglas, gan sicrhau ein bod yn riportio unrhyw achosion trwy borth TreeAlert. Deallaf mai'r symptomau allweddol i chwilio amdanynt yw namau ar y bonyn, y gangen neu'r gwreiddiau."
Mae canllawiau symptomau wedi’u paratoi sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am Phytophthora pluvialis. Yn y gorffennol, cafwyd achosion yng Nghernyw, Dyfnaint, Cumbria ac ar un safle yng ngogledd-orllewin yr Alban.
DIWEDD
Llun: gan Steven Kamenar ar Unsplash