Ar ôl treulio blynyddoedd yn pwysleisio potensial y safle, mae Janet Finch-Saunders, yr AS dros Aberconwy, wedi croesawu'r newyddion bod cwmni Pharma Group Holdings o Gonwy wedi caffael yr unedau gwag ym Mharc Tŷ Gwyn.
Fe wnaeth cwmni GM Jones adeiladu pencadlys £1.3 miliwn yn Llanrwst yn 2018 gyda £400,000 a mwy o nawdd diolch i Gronfa Economaidd Cymru. Ar ôl syrthio i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2019, bu'r ddau adeilad ym Mharc Tŷ Gwyn yn wag am dros ddwy flynedd.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Janet:
“Rwy'n falch iawn o glywed bod Pharma Group Holdings, busnes iechyd llwyddiannus lleol, am ehangu ledled yr etholaeth unwaith eto drwy gaffael yr unedau gwag ym Mharc Tŷ Gwyn. Mae'r buddsoddiad uchelgeisiol hwn yn Llanrwst yn cydnabod potensial y safle o ansawdd uchel hwn.
“Gobeithio y bydd y pryniant hwn yn ennyn agwedd fwy cadarnhaol at safle a oedd wedi troi braidd yn anghyfannedd. Er fy mod i'n dal i boeni'n fawr na chafodd £400,000 o arian trethdalwyr ei fonitro'n ddigonol pan wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn y safle i ddechrau, rwy'n edrych ymlaen at weld y cwmni'n dod â bywyd newydd i'r unedau.
“Ar ôl treulio'r tair blynedd diwethaf yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i mi yn Senedd Cymru i weld yr unedau rhagorol hyn yn cael eu defnyddio'n dda ac, yn bwysicaf oll, yn creu swyddi hirdymor o'r radd flaenaf, mae'n braf dechrau'r flwyddyn newydd gyda'r cyhoeddiad am hwb swyddi i Lanrwst."
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS ym Mharc Tŷ Gwyn