The £30 million improvement works on the A55 from Llanfairfechan to Bangor continue to disrupt journeys on the West and Eastbound carriageways.
The multimillion pound project started in Spring 2020, to increase the safety of the 2.2 km stretch by creating a new combined access road. The works also saw the removal of direct access from the carriageway and removed eight gaps in the central reservation that allow slow moving vehicles to cross the A55, which posed a risk to all road users.
The new combined access road is designed for agriculture and farm vehicle access, as well as part of a new active travel route for walkers and cyclers connecting Abergwyngregyn to Tal-y-bont.
Additionally improvements have been made to the drainage system surrounding the roads. The section of the A55 running from Junction 14 to Junction 11 is particularly hazardous, with multiple floods affecting both carriageways, and in serious instances, full closures of the A55 with diversions on the A5 and A470 due to flood water in recent years.
Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has commented on the works, stating:
The £30 million improvement project was due to last two years, completing in Spring 2022, then pushed back to Autumn 2022 and now we are being told the works will finish in Spring 2023.
These works are a priority to increase the safety of the section, with a safer cycle route and to improve the drainage so we don’t have full closures of the A55, and 30 mile diversions again.
But the Welsh Government have been changing the work schedule multiple times, and I do not feel confident that these improvements will be finished by this Spring, especially with the looming Easter Holidays starting in eight weeks time.
As a result, I have written to the Minister for Climate Change, Julie James, and asked her three fundamental questions:
- When will the works finish?
- Why is there a speed limit reduction of 40 mph when no work is taking place, especially in the evenings?
- And if one of the carriageways have to be closed in future, will the traffic be diverted to the other carriageway rather than to the A5 and A470?
I hope the Minister will be able to provide the answers that myself and my constituents want to hear
ENDS
Photo: Tai’r Meibion and A55 looking eastbound
Mae'r gwaith gwella gwerth £30 miliwn ar yr A55 o Lanfairfechan i Fangor yn parhau i darfu ar draffig tua'r dwyrain a'r gorllewin.
Dechreuodd y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn ystod gwanwyn 2020, er mwyn gwella diogelwch y darn 2.2 km drwy greu ffordd fynediad gyfunol newydd. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys cael gwared ar y mynediad uniongyrchol o'r lôn gerbydau a thynnu wyth bwlch yn y llain ganolog sy'n caniatáu i gerbydau sy'n symud yn araf groesi'r A55, a oedd yn beryglus i holl ddefnyddwyr y ffordd.
Mae'r ffordd fynediad gyfunol newydd wedi'i chynllunio ar gyfer mynediad i gerbydau fferm, yn ogystal â rhan o lwybr teithio llesol newydd i gerddwyr a beicwyr sy'n cysylltu Abergwyngregyn â Thal-y-bont.
Gwnaed gwelliannau ychwanegol i'r system ddraenio o amgylch y ffyrdd. Mae'r rhan o'r A55 sy'n rhedeg o Gyffordd 14 i Gyffordd 11 yn arbennig o beryglus, gyda llifogydd cyson yn effeithio ar y ddwy ffordd, ac mewn achosion difrifol, yn arwain at gau'r A55 yn gyfan gwbl gyda dargyfeiriadau ar yr A5 a'r A470 oherwydd dŵr llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi gwneud sylw ar y gwaith, gan ddweud:
“Roedd y prosiect gwella gwerth £30 miliwn i fod i bara dwy flynedd a'i gwblhau erbyn gwanwyn 2022 - cyn i'r dyddiad hwnnw gael ei symud i hydref 2022 a rŵan maen nhw'n dweud y bydd y gwaith yn dod i ben yng ngwanwyn 2023".
“Mae'r gwaith hwn yn flaenoriaeth i wella diogelwch y darn hwn, gyda llwybr beicio mwy diogel a draeniad gwell, fel na fydd yr A55 yn gorfod cau'n llwyr eto gan arwain at ddargyfeiriadau 30 milltir o hyd."
“Ond mae Llywodraeth Cymru wedi newid yr amserlen waith sawl tro, a dwi ddim yn teimlo'n hyderus y bydd y gwelliannau hyn wedi'u gorffen erbyn y Gwanwyn hwn, yn enwedig gyda gwyliau'r Pasg ar y gorwel ac yn dechrau ymhen wyth wythnos".
“O ganlyniad, dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a gofyn tri chwestiwn sylfaenol iddi”:
- "Pryd fydd y gwaith yn gorffen"?
- "Pam mae'r terfyn cyflymder wedi gostwng i 40 mya pan nad oes gwaith yn digwydd, yn enwedig gyda'r nos"?
- "Ac os bydd rhaid cau un lôn yn y dyfodol, a fydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio i'r ffordd arall yn hytrach nag i'r A5 a'r A470"?
“Gobeithio bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r atebion rydw i a’m hetholwyr am eu clywed”
DIWEDD
Llun: Tai'r Meibion a'r A55 tua'r dwyrain