Early on the 6th of June 1944 off the coast of German-occupied France, lay an armada of more than 7,000 vessels with over 100,000 troops ready to storm 50 miles of the northern shores. More than 14,000 sorties flew over 24,000 airborne personnel behind enemy lines.
Their aim was to firstly capture key bridges and neutralise coastal defences, with vital roads secured ahead of the main landings throughout the following days.
By the end of the first day 130,000 personnel came ashore representing 13 nations, united in their aim to liberate Europe from tyranny.
Today we remember them.
Commenting on the news, Janet said:
“I would like to say thank you to those who risked their lives for our freedom. Today, we honour their memory: the 10,000 wounded and the 4,400 who made the ultimate sacrifice on June 6, 1944.
“We are at a poignant time following the landings. We mark 80 years this year and with only a handful of veterans left who took part in the landings its important to realise we are moving from a time when this is a memory to when inevitably it will be confined to the pages of history.
“It is our duty to pass on the spirit of all those who took part in the daring operation, not just those with guns and bullets but also those who meticulously planned the operation, and to remind future generations of the sacrifice and to reaffirm our commitment to peace and freedom.
“I remember today, the thousands of people who worked in Conwy to help plan the D-Day landings. In particular, the small team of scientists who examined waves and sea conditions. They chose the Conwy estuary as place to develop a testing ground, building a huge floating harbour. It was their vital work that contributed to the infamous delay of D-Day by 24 hours due to inclement weather, and that ultimately gave the assault a significantly higher chance of success.
“Never again can we allow the horrors of war to descend upon mankind. To all those who died, to all those who risked their lives, I say thank you. We will remember you.
ENDS
Bydd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn cymryd rhan yn y digwyddiadau i goffáu glaniadau D-Day 80 mlynedd yn ôl heddiw. Bydd yn dechrau gyda seremoni yn y bore yng Ngherrig Mulberry yng Nghonwy gyda Maer Conwy ac yna yn ddiweddarach yn goleuo ffagl yn y Bandstand ar Bromenâd Llandudno am 9pm.
Yn gynnar ar 6 Mehefin 1944, oddi ar arfordir Ffrainc a oedd wedi’i meddiannu gan yr Almaen, roedd armada o fwy na 7,000 o gychod a thros 100,000 o filwyr yn barod i ddod i’r lan i ymosod ar 50 milltir o arfordir gogledd y wlad. Hedfanodd dros 14,000 cyrch fwy na 24,000 o filwyr drwy’r awyr i groesi llinellau'r gelyn.
Eu nod yn gyntaf oedd cipio pontydd allweddol a niwtraleiddio amddiffynfeydd arfordirol, gan sicrhau ffyrdd hanfodol cyn y prif laniadau dros y dyddiau canlynol.
Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roedd 130,000 o filwyr wedi dod i'r lan. Roedden nhw’n cynrychioli 13 gwlad ac yn unedig yn eu nod i ryddhau Ewrop rhag gormes.
Rydyn ni'n eu cofio nhw heddiw.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Janet:
"Hoffwn ddiolch i'r rhai a fentrodd eu bywydau dros ryddid. Heddiw, cofiwn amdanyn nhw a’r golled ofnadwy o golli 10,000 o bobl ar 6 Mehefin yn unig.
"Mae hwn yn adeg teimladwy ar ôl y glaniadau. Rydyn ni’n nodi 80 mlynedd eleni a gyda dim ond llond llaw o gyn-filwyr ar ôl a fu’n rhan o’r glaniadau mae'n bwysig sylweddoli ein bod yn symud o gyfnod pan mae hyn yn atgof byw i adeg pan fydd hi’n anochel y bydd yr hanes yn cael ei gyfyngu i dudalennau llyfrau hanes.
"Mae'n ddyletswydd arnom ni i drosglwyddo ysbryd yr holl bobl a gymerodd ran yn y cynllun beiddgar hwn, nid yn unig y rhai â gynnau a bwledi ond hefyd y rhai a gynlluniodd y cyrch yn ofalus, ac i atgoffa cenedlaethau'r dyfodol o'r aberth ac i ailddatgan ein hymrwymiad i heddwch a rhyddid.
"Rwy’n cofio heddiw am y miloedd o bobl a fu’n gweithio yng Nghonwy i helpu i gynllunio'r glaniadau D-Day. Yn benodol, y tîm bach o wyddonwyr a oedd yn archwilio tonnau ac amodau'r môr. Dewison nhw aber Conwy fel lle i ddatblygu maes profi, gan adeiladu harbwr mawr arnofiol. Eu gwaith hanfodol nhw a gyfrannodd at oedi D-Day o 24 awr oherwydd tywydd garw, a rhoddodd hynny siawns llawer uwch i'r ymosodiad lwyddo yn y pen draw.
"Ni allwn fyth eto ganiatáu i erchyllterau rhyfel ddisgyn ar ddynolryw. I bawb a fu farw, i bawb a fentrodd eu bywydau, rwy'n diolch. Yn angof ni chant fod."
DIWEDD