
Following a well-attended public meeting on rising anti-social behaviour (ASB) and criminal activity in Llandudno, Janet Finch-Saunders expressed her shock at the scale of the issue, particularly the number of reported incidents.
Over the past year, 389 youth-related ASB incidents were reported to North Wales Police—an average of one per day— with theft and shoplifting making up a significant portion of the crimes.
However, with residents admitting they do not always report such incidents, the real number is expected to be much higher.
Commenting on the meeting, Janet said:
"I was determined to bring key stakeholders together to address the growing concerns around ASB.
"Residents bravely shared their personal experiences, some of which were deeply concerning.
"North Wales Police and Crime Commissioner, Andy Dunbobbin, outlined ongoing efforts to tackle ASB across Aberconwy. However, it became clear that some areas in North Wales have received additional funding to address this issue, while others have not.
"Residents were encouraged to report incidents via 101 or online, but concerns were raised about response times/availability and the difficulty of getting through to the police.
"I want to reassure you—further action will be taken."
ENDS
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus prysur ar y cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol yn Llandudno, mynegodd Janet Finch-Saunders ei sioc ar hyd a lled y broblem, yn enwedig nifer y digwyddiadau sy’n cael eu riportio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Heddlu Gogledd Cymru 389 o adroddiadau am ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â phobl ifanc — un y dydd ar gyfartaledd — ac roedd dwyn a dwyn o siopau yn gyfran sylweddol o'r troseddau hyn.
Fodd bynnag, gyda thrigolion yn cyfaddef nad ydyn nhw bob amser yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, mae disgwyl i'r nifer go iawn fod yn llawer uwch.
Wrth sôn am y cyfarfod, dywedodd Janet:
"Roeddwn i’n benderfynol o ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i fynd i'r afael â'r pryderon cynyddol ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Bu trigolion yn ddewr iawn yn rhannu eu profiadau personol, ac roedd rhai o’r hanesion yn peri pryder mawr.
"Soniodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yn fras am yr ymdrechion parhaus sy’n digwydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Aberconwy. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod rhai ardaloedd yn y gogledd wedi derbyn cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond nid yw hynny’n wir am bob ardal.
"Cafodd preswylwyr eu hannog i roi gwybod am ddigwyddiadau drwy ffonio 101 neu gysylltu ar-lein, ond rhannwyd pryderon am amseroedd ymateb/argaeledd a'r anhawster o gysylltu â’r heddlu.
"Er mwyn cefnogi trigolion, byddaf yn cyflwyno taflenni logio yn fy swyddfa i olrhain digwyddiadau, a bydd modd i’r rhain gael eu rhannu wedyn gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bydd hyn yn helpu i greu darlun cliriach o'r sefyllfa ac yn cryfhau ein hymateb.
"Hoffwn dawelu eich meddyliau trwy ddweud y bydd camau pellach bendant yn cael eu cymryd."
DIWEDD