Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy was honoured to attend the 80th Anniversary D-Day commemoration and the Battle of Normandy service at Llandudno War Memorial on Saturday.
On the 8th of June, the Llandudno Royal British Legion hosted local veterans, the Mayor of Llandudno, members of the councils and fellow dignitaries at a service at the cenotaph.
Early on June 6, 1944, off the coast of German-occupied France, an armada of over 7,000 vessels lay ready to launch more than 100,000 troops onto 50 miles of northern shores. Over 14,000 sorties deployed 24,000 airborne personnel behind enemy lines.
Their initial objectives were to capture key bridges and neutralize coastal defences, securing vital roads ahead of the main landings in the days to follow.
By the end of the first day, 130,000 personnel from 13 nations had come ashore, united in their mission to liberate Europe from tyranny. Sadly, of the thousands who would lose their lives, 5 of them were from Llandudno.
Commenting on the days event Janet said:
“It was an honour to be part of a very beautiful ceremony on Saturday, and lovely to see and hear the Llandudno Town Band play their beautiful music accompaniment.
“The sound of the trumpet playing the last post and reveille was very emotional, as we held two minutes silence to remember all those brave men, some very young, and women in our forces who fought and died together for our country.
“This so that we can enjoy our freedoms today in a land of peace and prosperity. The service was poignantly led by the RBL Branch Padre, The Reverend Canon Philip Barratt, with the National Anthems and Calon Lan being led beautifully by Arthur Hughes and his twin sister, Angharad Gallagher.
“My grateful thanks to all the Cadet Forces who turned out, Poppy the outgoing Miss Alice, the Mayoral party, and Mr Adrian Hughes for such a well organised event.
“Heart rendering to see the Blind Veterans laying their wreaths, along with other veterans from here in Llandudno assisted by their friends and families. We will remember them.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS
Cafodd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yr anrhydedd o fynychu'r digwyddiad coffa i nodi 80 mlwyddiant D-Day a Brwydr Normandi yng Nghofeb Ryfel Llandudno ddydd Sadwrn.
Ar 8 Mehefin, croesawodd Lleng Brydeinig Frenhinol Llandudno gyn-filwyr lleol, Maer Llandudno, aelodau o'r cynghorau a'u cyd-bwysigion mewn gwasanaeth yn y senotaff.
Yn gynnar ar 6 Mehefin 1944, oddi ar arfordir Ffrainc a oedd wedi’i meddiannu gan yr Almaen, roedd armada o fwy na 7,000 o gychod a thros 100,000 o filwyr yn barod i ddod i’r lan i ymosod ar 50 milltir o arfordir gogledd y wlad. Hedfanodd dros 14,000 cyrch fwy na 24,000 o filwyr drwy’r awyr i groesi llinellau'r gelyn.
Eu nod yn gyntaf oedd cipio pontydd allweddol a niwtraleiddio amddiffynfeydd arfordirol, gan sicrhau ffyrdd hanfodol cyn y prif laniadau dros y dyddiau canlynol.
Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roedd 130,000 o filwyr wedi dod i'r lan. Roedden nhw’n cynrychioli 13 gwlad ac yn unedig yn eu nod i ryddhau Ewrop rhag gormes. Yn anffodus, o'r miloedd a gollodd eu bywydau, roedd 5 ohonyn nhw’n dod o Landudno.
Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Janet:
"Roedd hi’n anrhydedd cael bod yn rhan o seremoni hyfryd iawn ddydd Sadwrn, ac roedd yn braf iawn gweld a chlywed Band Tref Llandudno yn chwarae eu cyfeiliant cerddorol gwych.
"Roedd sŵn yr utgorn yn chwarae'r caniad olaf a’r caniad cyntaf yn emosiynol iawn, wrth i ni gynnal dau funud o dawelwch i gofio'r holl ddynion dewr hynny, rhai yn ifanc iawn, a’r menywod yn ein lluoedd a ymladdodd ac a fu farw gyda'i gilydd dros ein gwlad.
"Roedd hyn oll er mwyn i ni allu mwynhau ein rhyddid heddiw mewn gwlad o heddwch a ffyniant. Arweiniwyd y gwasanaeth gyda theimlad gan Offeiriad Cangen y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Parchedig Ganon Philip Barratt, gyda'r Anthemau Cenedlaethol a Chalon Lân yn cael eu harwain yn hyfryd gan Arthur Hughes a'i efaill, Angharad Gallagher.
"Diolch yn fawr iawn i'r holl Luoedd Cadetiaid a ddaeth allan, Poppy – y Miss Alice sy’n dod i ddiwedd ei chyfnod – y parti Maerol, a Mr Adrian Hughes am ddigwyddiad mor drefnus.
"Roedd hi’n brofiad ysgytwol gweld y Cyn-filwyr Dall yn gosod eu torchau, ynghyd â chyn-filwyr eraill o'r fan hon yn Llandudno gyda chymorth eu ffrindiau a'u teuluoedd. Yn angof ni chant fod."
DIWEDD