Heddiw (07 Medi), mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi croesawu'r newyddion bod yr achosion heb eu cynllunio o orfod cau’n llwyr un ochr o’r A55 yn sgil damweiniau wedi gostwng. Fodd bynnag, mae'r Aelod wedi annog Llywodraeth Cymru i roi mwy o fesurau arafu traffig ar waith i sicrhau bod y gostyngiad hwn yn parhau
Daw sylwadau Mrs Finch-Saunders yn dilyn ateb i’w Chwestiwn Ysgrifenedig i’r Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Nododd yr ateb y bu 34 o achosion heb eu cynllunio o gau un ochr o’r ffordd yn llwyr yn sgil damweiniau yn 2020, sy’n llai na’r 56 a gafwyd yn 2019.
Gan gyfeirio at y ffigurau, dywedodd Janet:
“Dyma newyddion da iawn i drigolion lleol, sef bod nifer yr achosion heb eu cynllunio o gau un ochr o’r A55 yn llwyr wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Fodd bynnag, fy mhryder pennaf yw bod nifer yr achosion o gau ffordd oherwydd damweiniau yn parhau yn uchel. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio bod llawer o bobl wedi bod yn gweithio gartref am ran helaeth o'r flwyddyn, a llai o deithio ar y ffordd.
“O ran datblygu priffyrdd, mae gan Lywodraeth Cymru arfer o symud fel malwen. Rwy’n galw ar y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd i ystyried mesurau arafu traffig pellach ar frys i sicrhau bod y gostyngiad hwn yn nifer yr achosion o gau’r ffordd yn sgil damweiniau yn parhau.
“Rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd Gogledd Cymru. Rhaid dweud hefyd bod cau ffyrdd yn llwyr heb rybudd yn fygythiad i fywoliaeth pobl wrth i drigolion fethu â chymudo i'r gwaith ac i ymwelwyr gael eu diflasu gan anghyfleustra wrth deithio i'n trefi glan môr gwych. "
DIWEDD