Heddiw (14 Mai), mae Aelod o’r Senedd Aberconwy - Janet Finch-Saunders - wedi annog Llywodraeth Cymru i roi mwy o dryloywder ar y cyfnod nesaf o’r Gronfa Cadernid Economaidd.
Cyhoeddwyd y pecyn cymorth i fusnesau yng Nghymru, a ddaeth i rym yn sgil yr argyfwng COVID-19, yn wreiddiol ym mis Ebrill 2020. Y syniad wrth wraidd y Gronfa Cadernid Economaidd oedd y byddai’n llenwi bylchau a adawyd gan gynlluniau eraill i gynorthwyo busnesau yn ystod cyfyngiadau’r llywodraeth. Mae’r gronfa wedi’i rhewi ar hyn o bryd wrth iddi gael ei hailasesu.
Mae Mrs Finch-Saunders hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi carfan Aberconwy o gwmnïau cyfyngedig bach. Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru bod cwmnïau o’r fath yn darparu cyfleoedd cyflogaeth hanfodol i wasanaethau a masnachau lleol.
Yn rhoi sylwadau ar y gorbryder y mae busnesau yn ei deimlo, dywedodd Janet:
“Rwy’n gwbl ymwybodol o bryder sawl busnes ledled Aberconwy, o ran y diffyg eglurder ynglŷn â cham nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd.
“Rydw i wastad wedi croesawu’r cyhoeddiadau cymorth dilynol gan Lywodraeth Cymru. Roedd hi’n hollbwysig bod Gweinidogion Cymru yn dilyn esiampl Llywodraeth y DU drwy gyflwyno pecyn cymorth digynsail i ddiogelu swyddi, busnesau ac incymau.
“Nawr, mae’n rhaid i Weinidogion ddod ger ein bron a darparu manylion clir sut mae Llywodraeth Cymru am lenwi’r bylchau cymorth sy’n bodoli.
“Rwyf hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cwmnïau cyfyngedig, sy’n cyflogi eu cyfarwyddwyr yn unig ac sy’n talu drwy fuddrannau, yn ffocws ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Mae’r cyfleoedd cyflogaeth dilynol y mae’r mentrau cymdeithasol bach hyn yn ei gynnig yn rhy bwysig i’r Gogledd eu colli.
DIWEDD