Heddiw (17 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi annog Llywodraeth Cymru i roi terfynau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau ymchwilio i lifogydd. Daw’r ymyrraeth gan Mrs Finch-Saunders ar ôl iddi gyflenwi copi o'i hadroddiad ei hun i'r Gweinidog i bryderon lleol am lifogydd, yn gynt yn y flwyddyn, a saith mis ers hynny, mae rhai cymunedau yn dal i aros am gyhoeddiad adroddiadau ymchwiliadau. Mae adroddiad ymchwiliad llifogydd adran 19 yn ofyniad statudol i brif awdurdodau lleol yn sgil llifogydd lleol, gyda’r adroddiad yn darparu argymhellion sydd â’r nod o liniaru’r risg o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Saith mis ar ôl i Storm Ciara achosi llifogydd eang ledled Dyffryn Conwy, a dydy’r adroddiad brys hwn ddim wedi’i gyhoeddi.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa sy’n wynebu preswylwyr lleol, dywedodd Janet:
“Mae dull awdurdodau llifogydd lleol arweiniol o ymchwilio i lifogydd yng Nghymru yn aml yn rhy araf, a heb ddigon o dryloywder, ac mae hyn wedi gadael preswylwyr yn crafu eu pennau. Er fy mod yn croesawu’r camau cadarnhaol y mae fy mhrif awdurdod llifogydd lleol wedi’u cymryd i ddechrau gwaith ar gynlluniau lliniaru llifogydd mawr eu hangen yn Llanrwst, saith mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros am yr adroddiad llifogydd adran 19.
Yn ôl A.19 (1), Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ar ôl dod yn ymwybodol o lifogydd yn ei ardal, rhaid i awdurdod llifogydd lleol arweiniol, i'r graddau y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol neu'n briodol, ymchwilio i ba awdurdodau rheoli risg sydd â swyddogaethau rheoli risg llifogydd perthnasol, ac a yw pob un o'r awdurdodau rheoli risg hynny wedi arfer, neu'n bwriadu arfer, y swyddogaethau hynny mewn ymateb i'r llifogydd. Yn ogystal, pan fydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad rhaid iddo gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad a hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli risg perthnasol.
Ychwanegodd Mrs Finch-Saunders:
"Mae pobl Llanrwst a chymunedau ledled Cymru yn haeddu eglurder ynghylch pryd y dylid cwblhau ymchwiliadau, a chyflawni argymhellion yr adroddiad.
“Mae’n cymryd amser annerbyniol o hir yn gyson i gyflawni adroddiadau adran 19, gydag oedi o fis Rhagfyr 2015 i fis Gorffennaf 2016 i orffen adroddiad ar gyfer Betws-y-Coed ac oedi rhwng Rhagfyr 2015 a Medi 2016 ar gyfer adroddiad Dolwyddelan. Rwyf wedi fy hysbysu bod nifer o adroddiadau ymchwiliadau sy’n ymchwilio i achosion o lifogydd o gwmpas Taf Elai yn dal heb eu cyhoeddi.
“Rwyf bellach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r achos pryder hwn ar unwaith drwy bennu amserlen statudol realistig a rhesymol ar gyfer y cyhoeddiadau hyn, er mwyn sicrhau nad yw cymunedau yn cael eu gadael yn aros am eglurder a fydd yn eu galluogi i ailadeiladu eu bywydau.
“Byddai angen gwneud diwygiad bach i ddarpariaeth Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 – diwygiad a fyddai’n sicr o dderbyn cefnogaeth ar draws y pleidiau yn siambr y Senedd. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau’r tryloywder y mae’r cyhoedd yn ei haeddu.”
DIWEDD