Heddiw (1 Gorffennaf), mae Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Blant a Phobl Ifanc - Janet Finch-Saunders AS - wedi mynegi ei gofid am ‘ddiffyg arweiniad’ Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sicrhau y gall pobl ifanc gael gafael ar gymorth iechyd meddwl. Mae ffigurau diweddar yn awgrymu mai dim ond 43% o blant a phobl ifanc yng Nghymru a fyddai’n hyderus i gael cymorth gan dîm iechyd meddwl, a 39% gan wasanaethau cwnsela ysgolion.
Mae pandemig COVID-19 wedi creu mwy o straen i iechyd meddwl pobl ifanc, gyda Chomisiynydd Plant Cymru’n ysgrifennu’n ddiweddar bod plant a phobl ifanc wedi gweld newidiadau sy’n cwestiynu eu hawliau dynol.
Wrth siarad am y sefyllfa, meddai Janet:
“Dylai cael gafael ar y cymorth iechyd meddwl priodol fod yn broses syml a didrafferth i’n pobl ifanc. Nid yw’n iawn, felly, y byddai llai na hanner plant Cymru yn teimlo’n hyderus i ofyn am gymorth gan dîm iechyd meddwl.
“Dros y blynyddoedd diweddar rydym wedi gweld dau fwrdd iechyd o Gymru yn dadlau am eu cyfrifoldeb i ddiwallu anghenion iechyd meddwl person ifanc. Mae Llywodraeth Cymru yn methu ein plant gyda’i diffyg arweiniad ar y mater hwn.
“Mae’n rhaid i weinyddiaeth Mark Drakeford fynd ati ar frys i adolygu a yw ein Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi rhoi blaenoriaeth gywir i integreiddio gwasanaethau i blant ag anghenion cymhleth, fel sy’n ofynnol gan y gyfraith.
“O ystyried y straen ychwanegol a roddwyd ar iechyd meddwl pobl ifanc gan gyfyngiadau COVID-19 mympwyol Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf, dylid sefydlu ymchwiliad annibynnol hefyd er mwyn ystyried yn iawn a oedd eu gweithredu yn cyd-fynd â deddfwriaeth hawliau dynol yng Nghymru.”
DIWEDD