Heddiw (13 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i safleoedd ailgylchu domestig ac annomestig fel rhan o’u cynigion strategaeth Mwy nag Ailgylchu.
Daeth ei hymyrraeth wrth iddi ddod i’r amlwg, rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, bod 675 achos o dipio anghyfreithlon ledled Castell-nedd Port Talbot, 968 ledled Sir Ddinbych, 1034 ledled Sir Fynwy a 2281 ledled Caerffili.
Yr achos pryder mwyaf oedd Rhondda Cynon Taf. Yno, er cofnodi 2816 achos o dipio anghyfreithlon rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, ni roddwyd unrhyw hysbysiadau cosb penodol. Daeth y ffigurau fel rhan o ymgyrch Rhyddid Gwybodaeth gan Weinidog yr Wrthblaid, yn gynharach eleni.
Gan roi sylw ar dipio anghyfreithlon, dywedodd Janet:
“Mae’n amlwg o’r ymatebion i fy nghais Rhyddid Gwybodaeth i awdurdodau lleol ledled Cymru, bod tipio anghyfreithlon yn parhau yn boen go iawn ac nad yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater wedi llwyddo.
“Yn wir, awgryma’r ffigurau nad oes gan awdurdodau lleol ledled Cymru, er bod ganddynt y pwerau i roi hysbysiadau cosb penodol ac erlyn, y cyllid angenrheidiol i sicrhau bod y pwerau hyn yn cael eu gorfodi.
“Mae’r ffigurau hyn hefyd yn awgrymu bod ein canolfannau ailgylchu yn bell o fod ar gael i lawer. Yn wir, dengys ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod tipio anghyfreithlon ledled y DU yn costio mwy na £57 miliwn y flwyddyn mewn costau glanhau i drethdalwyr.
“Felly, rwyf wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynyddu’r cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod canolfannau ailgylchu yn fwy hygyrch, gan y bydd yn rhaid i unrhyw strategaeth a lunnir yn y dyfodol i ymdrin â thipio anghyfreithlon ganolbwyntio ar atal yn hytrach nag ymateb.”
DIWEDD