Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Plant, Pobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, wedi galw am weithredu ar frys i helpu pobl ifanc sydd mewn gofal.
Mae hyn yn sgil rhyddhau astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd sy’n tynnu sylw at faint y broblem camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal preswyl.
Mae’r ffigurau’n seiliedig ar arolwg o ddisgyblion ysgol 11-16 oed. Mae’r canlyniadau’n dangos y canlynol am bobl ifanc mewn gofal preswyl:
• roedd ganddynt y sgôr lles meddyliol isaf
• roedd dros hanner (56%) wedi dioddef achos o fwlio yn ddiweddar
• roedd bron i dri chwarter (74%) wedi bod yn ymladd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
• roedd dros draean (36%) wedi meddwi yn ystod y 30 diwrnod diwethaf (o gymharu â dim ond 9% o bobl ifanc nad ydynt mewn gofal)
• roedd bron i draean (31%) y bobl ifanc mewn gofal preswyl wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf (o gymharu â 4% nad ydynt mewn gofal)
• dywedodd chwarter (26%) y bobl ifanc mewn lleoliadau preswyl eu bod yn smygu bob wythnos o gymharu â 3% sy’n byw gartref.
Meddai Gweinidog yr Wrthblaid wrth ymateb i’r canlyniadau:
“Un o nodau Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yw gwella canlyniadau i blant sydd naill ai mewn gofal neu ar ffiniau gofal.
“Mae’r cynllun yn llygad ei le yn nodi bod gwaith partneriaeth da yn hollbwysig er mwyn darparu’r cymorth gorau posib i unigolion a chymunedau.
“Mae gan Gymru ffordd bell i fynd.
“Mae bron i draean y bobl ifanc sydd mewn gofal preswyl wedi defnyddio canabis yn y mis diwethaf, o gymharu â 4% o’r rhai nad ydynt mewn gofal.
“Mae’n dorcalonnus bod pobl ifanc sydd mewn gofal preswyl dan gymaint o anfantais.
“Fel y dengys yr Athro Simon Murphy, mae pobl ifanc sydd wedi’u categoreiddio fel rhai sy’n derbyn gofal o unrhyw fath, yn profi canlyniadau gwael yn eu bywydau dro ar ôl tro.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder er mwyn helpu i ddeall pam mae pobl ifanc mewn gofal yn fwy tebygol o droi at alcohol a chyffuriau, a gweithio gyda phob unigolyn er mwyn helpu i leihau camddefnydd o sylweddau”.
Nodiadau:
Scale of substance misuse among adolescents in care revealed
Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022