Heddiw (29 Medi), mae Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – wedi canmol ymgyrch gan Dŵr Cymru sy’n annog Llywodraeth Cymru i ychwanegu cadachau sy’n cynnwys plastigau at eu rhestr o eitemau arfaethedig i’w gwahardd yng Nghymru.
Defnyddir tua 11 biliwn o gadachau gwlyb neu weips ledled y DU bob blwyddyn. Yn ôl adroddiadau, maen nhw wrth wraidd 93% o achosion o flocio carthffosydd yn y DU, ac mae gwyddonwyr yn pryderu y gallai’r deunydd sbwriel hwn hyd yn oed fod yn newid siâp afonydd ein cenedl. Y rheswm am hyn yw eu bod yn aml yn cyfrannu at bentyrru gwastraff ar welyau a glannau afonydd.
Wrth gefnogi’r ymgyrch gan Dŵr Cymru, dywedodd Janet:
“Mae’r cadachau hyn yn parhau i gyfrannu at nifer sylweddol o rwystrau carthffosydd, gan achosi gorlifo. Mae hyn yn aml yn arwain at lygredd plastig yn difetha ein traethau a’n dyfrffyrdd, a welais gyda’m llygaid fy hun wrth lanhau traeth gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn ddiweddar.
“Bydd y cadachau hynny sy’n cael eu gwaredu’n iawn fel rhan o wastraff biniau yn aml yn mynd i safleoedd tirlenwi neu’n cael eu llosgi. Mae hyn yn cyfrannu at allyriadau carbon ac ansawdd aer gwael, gyda’r ddau beth yn peri pryder penodol ac mae’n rhaid eu herio yn ystod ein hadferiad gwyrdd. “Yn frawychus, mae Dŵr Cymru yn mynd i’r afael ag oddeutu 2,000 achos o flocio carthffosydd bob mis yng Nghymru – a’r prif achosion yw bydiau cotwm a chadachau. Mae un cadach gwlyb yn ddigon i flocio pibell garthion, a’r posibilrwydd o achosi llifogydd trychinebus yn eich cartref.
“Rhaid i bob un ohonom ddechrau trin y cadachau hyn fel y byddem yn trin unrhyw blastig untro arall. Dyna pam rwy’n cefnogi’r ymgyrch hon gan Ddŵr Cymru, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys cadachau sy’n cynnwys plastig yn eu gwaharddiad arfaethedig.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn argymell gwaharddiad ar blastigau untro ers tro byd. Rydym yn cydnabod bod angen cymryd camau beiddgar i annog newid ledled y system i’r ffordd rydym i gyd yn ymdrin â gwastraff, a dyna pam y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn y dyfodol hefyd yn gweithio i gyflwyno cynllun blaendal ar gyfer dychwelyd cynwysyddion diod.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ymgyrch Dŵr Cymru drwy fynd i: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/help-advice/wastewater-advice/stop-the-b…
Llun: Peter Hall/UnSplash