Heddiw (14 Medi), croesawodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – ymrwymiad cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau i wella mynediad i Barciau Cenedlaethol Cymru ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad o £180,000 ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ysgafnhau traffig, gwneud gwaith adfer i fynd i’r afael ag erydiad i lwybrau a thir cyfagos ac i leihau llygredd golau.
Fodd bynnag, mae Mrs Finch-Saunders wedi galw am lunio strategaeth genedlaethol newydd i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â Pharciau Cenedlaethol y wlad. Mae’r Aelod o’r Senedd wedi ymgyrchu ers tro i gynyddu'r defnydd o Reilffordd Dyffryn Conwy, sy’n ymlwybro drwy Barc Cenedlaethol Eryri, gyda’r gobaith o weld gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol o
Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog er mwyn cefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Gan roi sylw ar y galwadau am strategaeth genedlaethol, dywedodd Janet:
“Gyda mwy o bobl yn cymryd gwyliau yn y DU eleni, mae mynediad i Barciau Cenedlaethol Cymru wedi dod yn fater pwysicach nag erioed. I gynnal y momentwm mewn diddordeb yn y gofodau gwyrdd hollbwysig hyn, rwy’n croesawu’r ymrwymiad cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu ein Parciau Cenedlaethol i wynebu’r heriau a ddaw yn sgil cynnydd mewn ymwelwyr.
“Fodd bynnag, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am gael Parciau Cenedlaethol sy’n cael eu mwynhau a’u gwerthfawrogi gan bawb, mae angen strategaeth genedlaethol newydd i gefnogi cynnydd yn y defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy. Mae hyn yn hollbwysig nid yn unig i leihau’r pryderon am dagfeydd, ond hefyd i leihau ôl-troed carbon y genedl a gwella’r ansawdd aer.
“Byddai hyn yn gofyn am fwy o fuddsoddiad yn y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hynny sy’n helpu pobl i deithio i ac o gwmpas Parciau Cenedlaethol Cymru. Byddai fy Strategaeth Genedlaethol arfaethedig yn darparu mwy o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, ond byddai hefyd yn chwilio am well ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i’r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd.
“Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru yn cwmpasu 20% o’n harwynebedd tir ac yn denu mwy na 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae’n gyfrifol yn fras am tua £1 biliwn sy’n cael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau lleol. Trwy wella’r mynediad i’n Parciau Cenedlaethol, gallwn fanteisio i’r eithaf ar yr ymwelwyr hyn â’n cymunedau gwledig.”
DIWEDD
Ffoto: Eryk Fudala/UnSplash