Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi cyfarfod cynrychiolwyr prif elusen diwedd oes y DU, Marie Curie, i drafod anghydraddoldebau iechyd yn y Gogledd a’r angen am Gynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Diwedd Oes. Yn ystod y cyfarfod, cyflwynwyd bỳlb cenhinen Bedr i Janet a ddylai flodeuo erbyn y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio, ddydd Mercher 23 Mawrth 2022.
Mae Marie Curie yn darparu gwybodaeth ymarferol a chefnogaeth ar bob agwedd ar fywyd gyda salwch angheuol, marwolaeth a phrofedigaeth. Yma yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn unig, mae gan yr elusen 138 o wirfoddolwyr, gan gynnwys cynorthwywyr, rhai sy’n codi arian yn y gymuned, gweithwyr hosbis a gweithwyr manwerthu. Gall preswylwyr ffonio eu llinell gymorth am ddim ar 0800 090 2309 neu sgwrsio gyda’r elusen ar-lein yn www.mariecurie.org.uk/help.
Yn rhoi sylwadau ar y trafodaethau, dywedodd Janet:
“Roed hi’n bleser cyfarfod cynrychiolwyr o Marie Curie yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae’r trafodaethau hyn wedi pwysleisio unwaith eto yr angen mawr am ofal lliniarol yng Nghymru, gydag amcangyfrifon yn tybio y byddai oddeutu 6,035 o bobl yn ardal Betsi Cadwaladr yn elwa ar ddarpariaeth o’r fath.
“I hwyluso a chryfhau cynllunio a darpariaeth gofal diwedd oes ar lefel leol, rwyf wedi bod yn glir yn gyson bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ofal diwedd oes ar lefel genedlaethol.
“Wrth edrych ar amcangyfrif o leoliadau marwolaethau dros y ddau ddegawd nesaf, dengys ymchwil y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y rhai sy’n digwydd yn y gymuned. O ystyried yr amcangyfrifir bod 78,512 o ofalwyr di-dâl yn gofalu am eu hanwyliaid gyda chariad yn rhanbarth Betsi Cadwaladr yn 2011, mae’r straen y bydd hyn yn ei roi ar breswylwyr lleol yn gwbl amlwg.
“Mae gan Gymru gyfle unigryw nawr i greu gwlad dosturiol eto. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar ymrwymiadau llac a wnaed drwy gyflwyno hawl i seibiant i ofalwyr di-dâl a darparu setliad cyllid newydd i’n hosbisau.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS yn nigwyddiad Marie Curie yn y Senedd.