Heddiw (26 Tachwedd) mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi croesawu neges o gefnogaeth gan Wm Morrison Supermarkets plc, sydd wedi ymrwymo i adolygu’r opsiynau i gadw cynhyrchion gwlân o Gymru yn eu siopau.
Dyma’r newyddion diweddaraf yn ymgyrch Addewid ynghylch Gwlân o Gymru Janet sy’n pwyso ar Aelodau etholedig neu Senedd Cymru i ymrwymo i hyrwyddo rhinweddau’r ffibr naturiol hwn. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Janet wedi ysgrifennu at fanwerthwyr gwlâu a charpedi , yn ogystal â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn gofyn iddyn nhw adolygu eu polisïau prynu.
Dyma a ddywedodd Janet am eu hymateb:
“Rwyf wrth fy modd bod Morrisons am adolygu ei opsiynau i gadw cynhyrchion gwlân o Gymru yn eu siopau, gan sylweddoli bod yna awydd clir ymysg y cyhoedd i gefnogi ffermwyr o Gymru drwy’r cyfnod heriol hwn. Mae’r cadarnhad hwn hefyd yn gydnabyddiaeth amlwg o ansawdd gwych ac unigryw gwlân o Gymru, brand sy’n gyfystyr â gwydnwch a chynaliadwyedd.
“Mae’r cadarnhad hwn, ynghyd â’r ymrwymiad gan John Lewis, yn esiampl i fanwerthwyr eraill, gan eu hannog i ymrwymo i adolygu eu harferion prynu. Mae llawer o dyddynwyr o Gymru eisoes yn cyflenwi cnu ac edafedd, tra gall nifer o gwmnïau nyddu a gwehyddu ar hyd a lled Cymru helpu i sicrhau bod y broses gweithgynhyrchu’n digwydd yn lleol.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar bris clipiau gwlân ac felly gall ein manwerthwyr fod â rhan bwysig yn cefnogi ffermwyr o Gymru drwy newid y deunyddiau a ddefnyddir yn eu cynhyrchion. Rwy’n canmol Morrisons am gymryd y cam cadarnhaol hwn i gadw gwlân o Gymru a byddaf yn anfon yr wybodaeth angenrheidiol am gysylltiadau’r sector i’r pencadlys er mwyn helpu gyda’i adolygiad.”
DIWEDD
Nodyn i Olygyddion:
- Cysylltwch â’r swyddfa i gael copi o’r e-bost gan Wm Morrison Supermarkets plc.