Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, was honoured to attend the beacon lighting ceremony in Llandudno on 6 June so to commemorate D-Day and the Battle of Normandy.
The international 80th anniversary D-Day beacon was lit in Normandy at 8.15pm, at the British Normandy Memorial overlooking Gold Beach, with the other beacons located on Utah, Omaha, Juno and Sword beaches being lit at 8.30pm, followed by beacons across the United Kingdom, including Llandudno at 9:15pm.
All gathered on the promenade heard a piper, Llandudno Town Band playing a selection of music from the World War II era, poems read out by school pupils and cadets, and took part in a minute’s silence.
Speaking following the beacon lighting, Janet said:
“We honour the memory of the 130,000 personnel who landed in Normandy on 6 June 1944, and the over 2 million people who took in the three month long Battle of Normandy.
“Their heroic efforts, over 70,000 of whom making the ultimate sacrifice, changed the course of the war, and secured the freedoms we enjoy in Europe, the United Kingdom, and Wales today.
“It is vitally important that we remember the significance of the sacrifices made eight decades ago, and I would like to thank communities the length of Aberconwy, from Llanrwst to Llandudno, for making special efforts to remember.
“I hope that the image of the lit beacon in Llandudno lives on in the memories and hearts of all present, and as such serves as a helpful reminder of the importance of D-Day.”
ENDS
Photo: Beacon lighting in Llandudno
Roedd hi’n anrhydedd i Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, fynychu seremoni cynnau ffagl yn Llandudno ar 6 Mehefin er mwyn coffáu D-Day a Brwydr Normandi.
Cafodd y ffagl D-Day ryngwladol 80 mlynedd ei chynnau yn Normandi am 8.15pm, yng Nghofeb Normandi Prydain yn edrych dros Gold Beach, gyda'r ffaglau eraill ar draethau Utah, Omaha, Juno a Sword yn cael eu cynnau am 8.30pm, ac yna ffaglau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Llandudno am 9:15pm.
Cafodd pawb a ddaeth at ei gilydd ar y promenâd glywed pibydd, Band Tref Llandudno yn chwarae detholiad o gerddoriaeth o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, cerddi’n cael eu darllen gan ddisgyblion ysgol a chadetiaid, a chymryd rhan mewn munud o dawelwch.
Wrth siarad yn dilyn cynnau’r ffagl, dywedodd Janet:
“Rydyn ni’n anrhydeddu cofio’r 130,000 o bersonél a laniodd yn Normandi ar 6 Mehefin 1944, a'r ddwy filiwn a mwy o bobl a gymerodd ran yn y frwydr tri mis o hyd yn Normandi.
“Gwnaeth mwy na 70,000 ohonyn nhw’r aberth eithaf, ond newidiodd eu hymdrechion arwrol gyfeiriad y rhyfel, a sicrhau'r rhyddid rydyn ni’n ei fwynhau yn Ewrop, y Deyrnas Unedig a Chymru heddiw.
“Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n cofio arwyddocâd yr aberth a wnaed wyth degawd yn ôl, a hoffwn ddiolch i gymunedau hyd a lled Aberconwy, o Lanrwst i Landudno, am eu hymdrechion arbennig i gofio.
“Rwy'n gobeithio bod delwedd y ffagl wedi’i chynnau yn Llandudno yn parhau yn fyw yng nghalonnau pawb a oedd yn bresennol, gan ein hatgoffa o bwysigrwydd D-Day.”
DIWEDD
Llun: Goleuo ffagl yn Llandudno