Dydy’r bonws o £500 gan Lywodraeth Lafur Cymru i weithwyr gofal, iechyd a gweithwyr allweddol eraill – a gyhoeddwyd ddau fis i heddiw – ddim wedi’i dalu i unrhyw un eto. Meddai Janet Finch-Saunders, y Gweinidog Cysgodol dros Ofal Cymdeithasol:
“Mae’r bonws hwn wedi bod yn dipyn o ben tost i’r Blaid Lafur.
“Er bod y Blaid Lafur yn llawn bwriadau da wrth wneud y cynnig hwn wrth gwrs, daeth yn amlwg yn fuan iawn eu bod wedi siomi miloedd o weithwyr gofal a gweithwyr eraill ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino drwy fethu ag ystyried y byddai’r bonws yn destun treth a didyniadau ar gyfer cyfraniadau YG.
“Dim ond wythnos diwethaf y datgelwyd y byddai rhai gweithwyr yn derbyn cyn lleied â £125, gan fod y Prif Weinidog wedi methu â gwirio a allai’r bonws effeithio ar fuddion mewn gwaith.
“Ond ddeufis yn ddiweddarach, does neb wedi cael y bonws.
“Mae’n halen ar y briw, ac yn gamgymeriad drud gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac yn dorcalonnus i bobl sy’n gweithio mor galed.”
DIWEDD